Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

drwy Gymru, ac wedi iddo gael ei wneud yn Ustus Heddwch, ag eistedd gyda mawrion y tir. Gwerthodd y tŷ—nid oedd yn fawr—a godasai iddo ei hunan ychydig o'r dref , a daeth yn ôl i ganol ei gyd-ddynion drachefn. Ni chlywodd neb am dano yn gwneuthur tro "gwael," yn crafangu am elw, yn troi ei gefn mewn ymchwydd ar un o'i gyd-ddynion, yn deffro digasedd drwy fudr-falchder. A gadwir i lawr falchder i'r fath raddau heb grefydd ? Cafodd lawer o'r gwir, ond cafodd ef am iddo ei garu, ac ymlynu wrtho. Ond rhaid ymatal; pan gofiwn y dirfawr dlodi a fu yn rhan iddo am lawer o flynyddoedd, pan feddyliwn mor hynod o brin oedd yr holl amser a gai i ddarllen ac i feddwl, i dderbyn gwybodaeth ac i'w roddi pan ystyriom am ei wendid corfforol, a'i faith anallu, rhaid gollwng teimlad i mewn ag y mae ei newydd-deb yn un o'r profion gorau o fawredd Daniel Owen—syndod aruthr. Tra yr oedd gyda ni, ymddangosai yn beth mor naturiol iddo fod yr hyn ydoedd, mai ychydig o syndod a deimlid gan neb. Ond yn awr gwelwn mai yr esboniad cymhwysaf, a'r unig un priodol ar ei allu rhyfedd, yw mai rhodd Duw ydoedd Daniel Owen. Yr oedd yn greadur ar ei ben ei hun. Y cyfaill