Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

DESGRIFIAD O DANIEL OWEN.

(Gan Mr. John Lloyd (Crwydryn), Treffynnon.)

WELE ddisgrifiad a ymddangosodd o Daniel Owen yn y County Herald, Mehefin 10fed, 1887, gan un a alwai ei hun Crwydryn, sef Mr. John Lloyd o Dreffynnon:—

"Tra yn edrych arno, meddyliem' fod pwy bynnag a roddodd fodolaeth i'r ymadrodd fod 'naw teiliwr yn gwneud un dyn' yn dra anadnabyddus o holl 'ferchyg y nodwydd' yn Sir Fflint, neu ni fuasai byth yn rhyfygu gwneuthur sylw mor gyfeiliornus. Pe yn adnabod un ohonynt, yr ydym ar fedr cyfeirio ato, galliasai yn hawdd aralleirio'r frawddeg, a dweud fod yr un teiliwr hwn yn well na llawer naw dy/ a'r dynion hynny heb fod yn rhai cyffredin ychwaith. Ni wastraffodd natur gnawd ac esgyrn iddo. Lled gynnil, mewn gwirionedd y bu yn ei dosraniad o'r naill a'r llall