Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant John Williams I ab Ioan Aberduar.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hun heno!" Wedi gorphen pregethu mewn Cymmanfa a gynhaliwyd yn y Tabernacle, Caerfyrddin, daeth ei hen gyfaill (Isaac Evans, Cwmtwrch,) i gyffyrddiad ag ef—aelod gwreiddiol, cofier, yw y brawd anwyl a pharchus hwn o Aberduar, ac wedi bod am flynyddau dan ei weinidogaeth—a chymerodd yr ymddyddan canlynol le rhyngddynt:— "Wel, Isaac, sut y pregethais I, d'wed?" "Fe bregeth'soch yn odidog; nid wyf yn meddwl y pregetha neb yn well na chwi yma heddyw. Pan welais chwi yn dyfod yn mlaen i front y stage—ac os gweddïais erioed—fe weddïais o eigion fy enaid am i chwi gael nerth, a chwi a gawsoch nerth i'w ryfeddu." "O, Isaac," ebai, dan chwerthin yn iachus fel y medrai wneyd, "mi welaf dy fod ti am gael y gogoniant i gyd am weddïo drosof, ac nid oes ond ychydig neu ddim i mi am bregethu yn dda." Flynyddau mawr yn ol, pan oedd ein harwr yn sefyll ar lan bedd dynes a fuasai am gyfnod maith yn gorwedd yn ei gwely, gofynodd un o'i pherthynasau (yr hon oedd yno ar y pryd) iddo wneyd pennill i'r ymadawedig? "Gwnaf," ebai Mr. Williams, "ar yr ammod i ti beidio ffromi." Sicrhaodd ef na wnai ddigio. Yna esgorodd yr awen ar y pennill digrif canlynol, yr hwn sydd ar lafar gwlad yn mhell ac agos:—

"Yma gorwedd Lettis hagar,
'Lawr yn isel yn y ddaear;
Os cara'r bedd fel gwnaeth â'r gwely,
Hi fydd yr ola'n adgyfodi."

Yr oedd y dawn parod hwn wrth law ganddo yn mhob cylch y troai ynddo. Un boreu Sabbath, pan