Byddai y brawd hwnw yn gwisgo fynychaf yn bur dda, a cheffyl golygus dano; yn yr allanol yr oedd yn rhagori ar Mr. Williams. Pan ar eu taith i gyfarfod yn Mhontrhydfendigaid, yr oedd y bobl yn talu gwarogaeth trwy wneyd curtsi a chodi het, &c. Dywedodd y brawd wrth Mr. Williams mai efe oedd gwrthddrych yr arwyddion parchus hyn. Atebodd yntau ei fod ef yn eu cael gystal ag yntau. "Beth bynag am y gorphenol," ebai Mr. Williams, "y fi gaiff yr oll o hyn allan." Gwnaeth ein harwr drick ag ef. Safodd o'r tu ol iddo, a phan y byddai dyn neu ddynes yn dyfod, tynai Mr. Williams ei het iddynt yn gyntaf, tu cefn i'r cyfaill golygus; felly y gwnaeth y bobl yr un cyfarchiad, wrth gwrs, yn ol i'r hwn oedd yn eu cyfarch gyntaf. Wedi colli yr holl foesgyfarchiadau, a Mr. Williams yn ei boeni, cyffrodd nwydau y gwr balch i raddau mawr, a bu agos iddo gyflawni trosedd pwysig yn erbyn ein harwr; dan yr amgylchiadau hyn i ffwrdd ag ef nerth cyflymdra yr anifail. Yn mhen tymhor, mewn ty gerllaw, daliwyd ef gan Mr. Williams, a rhybuddiodd ef am ei bechod, gan osod ger ei fron y gosp a roddai arno, sef—y tro cyntaf y clywai ef yn pregethu—y gwnai anfon ei bregeth air am air i Seren Gomer. Dychrynwyd y brawd mor ofnadwy fel na phregethai ar un cyfrif yn ei glyw drachefn. Ond cyn nemawr amser ar ol hyny yr oedd yn pregethu mewn cyfarfod neillduol, a phan oedd ond newydd ddechreu daeth Mr. Williams i fewn; ac er syndod i bawb, dyna y pregethwr yn tori i fyny ar unwaith rhag ofn y fflangell.