Yr oedd Mr. Williams yn Rhyddfrydwr trwyadl o ran ei syniadau gwleidyddol, ac yn un a deimlai lawer iawn o ddyddordeb mewn achosion o'r fath.
Condemnir gweinidogion Ymneillduol am ymyraeth mewn achosion o'r fath. Pan chwilir hanes y tylwyth hyn, ceir mai nid gofal dros ein crefydd a'n duwioldeb sydd arnynt, ond ofn ein dylanwad. Y mae ymdrechu am ein rhyddid a'n hawliau gwladol yn bechod yn eu cyfrif hwy; yr hawliau a waharddant i eraill a fwynheir ganddynt hwy eu hunain. Dymunem eu sicrhau, tra fyddo Eglwyswyr gwleidyddol, fe fydd Ymneillduwyr gwleidyddol hefyd; ac, yn wir, onid ydym yn ddinasyddion fel eraill, ac yn talu trethi? Tra fyddom felly y mae gan weinidogion hawl i ymyraeth â chyfreithiau y wlad.
Gweithiodd ein harwr drwy ei oes gyda ffyddlondeb yn y cyfeiriad hwn; ac yn 1868, sef yr etholiad cyffredinol, collodd y Gwrdymawr, sef ei anwyl gartref y treuliodd dros ugain mlynedd mor ddedwydd ynddo. Yr oedd Mr. Williams, yn un o ddysglaer lu y merthyron gwleidyddol yn y cyfnod hwnw; safodd y brofedigaeth fel gwron, ac ni fedrodd gwg na bygythion ei feistr tir syflyd ei nerth moesol. Yr oedd rhyw ddynion yr adeg hono, fel ar adegau cyffelyb, yn cymeryd eu harwain megys caethion i foddio nwydau llygredig eu meistriaid, a hyny ar draul sathru iawnderau y gydwybod o dan eu traed. Nid dyn glasdwraidd felly oedd gwrthddrych ein cofiant, ond gwron diail a fedrodd ddweyd yn ngwyneb ei feistr tir, na wnai blygu glin cydwybod iddo er peryglu cartref hoff. Diolch i Dduw fod rhai o'r