Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant John Williams I ab Ioan Aberduar.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

stamp hyn i'w cael; onide, arosai y byd yn dragywyddol dan iau caethiwed.

FEL GWEINIDOG.

Y mae llawer un yn bregethwr da, ond yn weinidog tylawd. Nid ydym am honi fod Mr. Williams y gweinidog goreu; er hyny, yr oedd llawer o ragoriaethau yn perthyn iddo. Y mae y ffeithiau canlynol yn profi hyny.

Bu yn weinidog yn yr un eglwys am ddeugain mlynedd. Yr oedd yn arfer ymffrostio yn ei arosiad yn yr un lle; ac, yn wir, yr oedd ganddo hawl i hyny; nid peth bach oedd byw mewn tangnefedd gyda'r un bobl am gynnifer o flynyddoedd. Y mae clod hefyd yn perthyn i'r eglwys am ei hysbryd tawel a llonydd; nid yn unig mewn cysylltiad â Mr. Williams, ond pob gweinidog a fu yn gweini iddi er ei dechreuad; ni anfonodd un gweinidog ymaith erioed. Gwir i rai ymadael, ond gwnaeth yr eglwys ei goreu i'w cadw, megys Saunders, Merthyr, a'r enwog John Williams, Trosnant, &c., &c.

Parhaodd Mr. Williams yn wir barchus hyd ddiwedd ei oes. Yr oedd yr aelodau a'r gwrandawyr â meddwl pur uchel am dano. Yr oedd yr hen aelodau, y rhai oedd yn debyg iddo o ran oedran, yn hynod ëofn arno. Dyma enghraifft o'r modd y byddent yn siarad â'u gilydd yn aml. Un boreu Sabbath, pan yn dyfod oddiwrth y capel, yr oedd yn cyd-gerdded â gwraig lled dalentog. Dechreuodd Mr. Williams bysgota