Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant John Williams I ab Ioan Aberduar.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cofier, ei enaid mawr cyfion—heddyw
Sy 'n addurn yn nghoron
Ei rad Bryniawdydd mawr Iôn,
Yn canu 'r Nef acenion.

Y bywiog I. ab Ioan—a orphwys
Yn arffed y graian;
Ond A cwyd, fy enaid cân,
A gwel ei Loffyn gwiwlan.

O fewn i hwn y cawn fwynhau—diliau
Ei delyn bêr seiniau;
Cawn y dwys, a'r glwys yn glau,
Yn ddenawl trwy ei ddoniau.

Ei ddawn oedd burlan o berlau—lluniaeth
Sy'n lloni coeth odlau;
A! gwell na'r gwin i'r min mau,
Ei gu addien gywyddau.

Ehedlym yw ei awdlau,—a'i seiniau 'n
Orswynawl yn ddiau;
Afalau têr, pêr, pob pau,
Yw ei orwych ffraeth eiriau.

Eang lanwai englynion—o synwyr,
A seiniau melusion;
Coronau pob cywreinion,
Iddo er bri oedd o'r bron.

Mae ei ddawn hoff, llawn lluniaeth,—yn fiwsig
Ar faesydd llenyddiaeth;
Arllwysai frwd ffrwd fawr ffraeth,
'Fyw wir ddawn y farddoniaeth.

Ei Loffyn dillyn, da hollol,—erys
Yn arogl mynwesol;
Bydd hwn tra bryn, dyffryn, dol,
'N addurn i'r byd llenyddol.

Yn goeth iawn gwnai bregethu,—wr enwog,
Goranwyl trwy Gymru;
Ei bwnc a driniai tra bu,
Yn foddus i'w ryfeddu.

Pregethu 'n goeth fu hyd ei fedd—agos
Bu am ddeugain mlynedd;
Bu 'n traethu, clyw, 'n wyw ei wedd,
Wr astud ar ei eistedd![1]


  1. Bu yn pregethu droion ar ei eistedd, pan yn methu sefyll uwchben ei draed