Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd yr olaf yn lled ddiffygiol mewn dawn a gwybodaeth, yr oedd gan y cyntaf gyflawnder o bob un o'r ddau. Mor ddoeth a thirion y gwelwn y Brenin Mawr, yn darparu offerynau priodol i ddwyn ei achos bychan a gwan yn y lle hwn ymlaen. A bu y ddau yn cyd-dynu ac yn cydweithio gyda'u gilydd yn rhagorol am tua deunaw mlynedd; ac yr oedd y ddau yn gyfeillion mawrion.

Yn fuan wedi iddynt gael eu dewis yn flaenoriaid, daeth yr amser iddynt gael eu derbyn yn aelodau o'r Cyfarfod Misol. Yr un oedd yn eu holi am eu gwybodaeth ysgrythyrol a chrefyddol oedd y Parch. William Roberts, Clynog. Ystyrid ef yn dduwinydd lled drwm, ac yn ysgrythyrwr rhagorol. Holodd hwy yn lled galed, mor galed fel yr aeth yn bur dywyll arnynt, ac yr aethant i fethu ateb. Synai yr hen dduwinydd eu bod yn methu ateb ei gwestiynau, gan nad ystyriai hwy yn rhai anhawdd o gwbl. "Yn enw dyn," meddai, "yr ydw' i yn synu atoch ch'i, eich bod yn methu ateb cwestiynau mor hawdd a hyn." "Na, 'dydy o yn syndod yn y byd, William Roberts," meddai Owen Owens, "ni wyddoch chwithau yn y byd pa sawl gorifyny sydd o Glynog i Bwllheli," gan awgrymu, mae yn debyg, fod ei gwestiynau mor anfuddiol a phe buasai yn gofyn hyny.

Ymhen ryw flwyddyn neu ddwy ar ol hyn, digwyddodd amgylchiad arall o bwys yn hanes Owen Owens, sef ei briodas. Cymerodd hyn le yn hen eglwys hynafol Clynog. Trwy garedigrwydd y Parch. J. Pryse, y Ficer, cawsom y cyfeiriad sydd at hyny yn register y plwyf. Fel hyn y mae:—Owen Owens of this Parish, Bachelor, and Mary Owen of this Parish, Spinster, were married in this Church by License, the 28 day of March, in the year 1828. Merch Cors- y-wlad[1] oedd ei briod, Mari Owen, ac yr oedd yn byw yn y fferm ei hun, gellid meddwl, ar y pryd. Yr oedd Mari Owen gryn lawer yn hynach nag Owen Owens, ond yr oedd yn wraig ddistaw, gall, a hynod grefyddol. Gellid meddwl ei bod hefyd o deulu crefyddol, oblegid yr oedd ganddi ddau frawd yn flaenoriaid nid anenwog, sef Griffith Roberts, Terfyn, Clynog, ac Owen Roberts, Gwernddwyrig, Bethel, ger Penmorfa. Ac yn Nghors-y-wlad y cartrefodd Owen Owens o hyn hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le ymhen

  1. ↑ Tybir fod yr enw Cors-y-wlad wedi tarddu o'r ffaith fod y tair fferm a adwaenir yn awr wrth yr enw hwn, wedi bod gynt yn gors fawr, yn perthyn i holl blwyf Clynog, a rhyddid i'r holl blwyfolion i anfon eu hanifeiliaid iddi, yn rhad ac yn ddi-dal.