Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tua haner can' mlynedd ar ol hyn. Diau i hyn fod yn fantais i'w grefydd ac i'w ddefnyddioldeb, gan y cai lawer o ryddid i fyned i'r cyfarfodydd crefyddol yn y capel ac yn y wlad, yr hyn oedd ei brif hyfrydwch. Bu fyw gyda Mari Owen am tua deuddeng mlynedd ar hugain, sef hyd y flwyddyn 1860. Ymhen dwy flynedd ar ol hyny, priododd drachefn gyda Mrs. Catherine Owen, yr hon, fel y cyfeiriwyd, sydd yn y lle yn awr gyda'i mab, Mr. O. Roger Owen. Gellir dweyd am Mari Owen, fod iddi "air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun." Treuliodd oes nodedig o grefyddol, a pharhaodd felly i'w diwedd. Yr oedd yn dirf ac yn iraidd yn ei henaint. Mae hanesyn ar gael sydd yn dangos crefyddolder ei hysbryd, a'i chariad at Iesu Grist a'i achos, hyd y diwedd. ychydig cyn ei marwolaeth yr oedd Cyfarfod Misol yn cael ei gynal yn Mwlchderwin. Yr oedd ei llygaid erbyn hyn wedi tywyllu gan henaint, fel nad oedd yn gweled dim. Yr oedd y diweddar Barch. John Jones, Caernarfon (Rhos ar ol hyny), wedi cael ei wahodd i'r Cyfarfod Misol, ac yn lletya yn Nghors-y-wlad. Yr oedd John Jones yn gyfaill mawr i Owen Owens ac i Mari Owen, ac yn hynod gartrefol yn y tŷ. Rywbryd yn ystod y diwrnod neu noswaith gyntaf y Cyfarfod Misol, yr oedd Owen Owens a John Jones yn eistedd wrth y tân, a gwelent Mari Owen yn llawn trafferth a phrysurdeb yn darparu ar gyfer y Cyfarfod Misol "Beth mae hi'n wneyd?" meddai John Jones. "Gwneyd basgedaid o ryw bethau at y Cyfarfod Misol, ddyliwn i," meddai Owen Owens. "O," meddai John Jones, "mi â i i'w hymyl hi, heb iddi wybod, gael i mi ei gwel'd hi yn gwneyd." Aeth i'w hymyl, a sylwai arni yn fanwl yn rhoddi y bara gwyn, y bara ceirch, y llefrith, y'menyn, a'r caws, &c., yn y fasged. Wedi llenwi y fasged hyd yr ymylon, teimlai ei gwyneb drosti yn fanwl â blaenau ei bysedd, i edrych a oedd yno le i ychwaneg. Ac wedi gweled nad oedd, dywedodd, "Wel, dyna hi, Iesu mawr, cyn llawned ag y medra' i ei gwneyd hi; pe buasai yma le i chwaneg, fe fuaswn yn rhoddi chwaneg." Nid oedd hi yn gwybod fod neb yn sylwi arni ond "yr hwn a wêl yn y dirgel."

Ymhen rhyw bedair neu bum' mlynedd ar ol cael ei ddewis yn flaenor, digwyddodd rhywbeth lled anhapus a phrofedigaethus i Owen Owens. Mae yn hysbys i'r rhai a wyddant ond ychydig am dano, ei fod yn naturiol wyllt a phoethlyd iawn ei dymer, ac y mae ei deulu i raddau helaeth felly. Ac fe fu hyn yn gryn brofedigaeth iddo ar hyd ei oes. Yr oedd cyfarfod athrawon neu gyfarfod brodyr yn Mwlchderwin, rywbryd tua'r