adeg hon. Yr oedd yno hen frawd lled ddreng o'r enw William Morris, Cae'rbwlch, ac aeth yn lled ddrwg rhyngddo ag Owen Owens yn ystod y cyfarfod Ac wrth fyned allan, yn nghourt y capel, fe droes at Owen Owens, ac fe ofynodd iddo i beth yr oedd yn ei groesi ef yn y cyfarfod. Fe wylltiodd Owen Owens gymaint fel y collodd bob llywodraeth arno ei hun, ac fe gydiodd yn ei frocan, fel y dywedir. Ni ddarfu iddo ei daro na'i dagu, gan fod Roger Owen, ei frawd, yn ddigon agos ato i'w atal. Y diwedd fu, beth bynag, i'r peth fyned i'r Cyfarfod Misol; ac anfonwyd dau o'r gwyr pwysicaf a feddai y Cyfarfod Misol i Fwlchderwin i drin y mater, neb amgen na'r Parch. John Jones, Tremadog, a Mr. William Williams, Llanerch, tad y diweddar Mr. William Williams. A'r penderfyniad y doed iddo oedd, ei atal i weinyddu ei swydd am ryw gymaint o amser, ynghyd a'i dori o'r ordinhad. Ar ddiwedd y Seiat hono dywedai William Williams yn bur effeithiol,—" Wel, dyma eich Aaron ch'i yn Mwlchderwin yma wedi tewi." Ac fe brofodd geiriau yr hen flaenor yn eithaf gwir. Bu eglwys Bwlchderwin am tua blwyddyn heb nemawr o drefn arni. Nis gallent gario y moddion ymlaen heb help rhywrai o'r eglwysi cylchynol, megis Brynengan, neu Bencoed, neu Gapel Ucha', Clynog, &c. A mynych y byddai swyddogion yr eglwysi hyny yn methu dyfod, ac felly ni ellid cynal y Seiat, gan na feddai Robert Prichard, y blaenor arall, allu i ddwyn y Seiat ymlaen.
Ond er mor llym oedd yr oruchwyliaeth hon tuag at Owen Owens, eto, ni ddarfu i hyn ei bellhau oddiwrth grefydd. Yn hytrach, darfu i hyn, er mor annhebyg, ddigwydd iddo er ei iachawdwriaeth, gallem feddwl. Yn fuan ar ol i hyn ddigwydd, yr oedd Sasiwn y Bala yn cael ei chynal; ac aeth yntau yno gyda'r fintai oedd yn myned o ardal Clynog a Bwlchderwin. Mae un, o leiaf, yn fyw, oedd yn y fintai hono, sef yr Hybarch John Jones, Bryn'rodyn; a difyr iawn ydyw clywed Mr. Jones yn adrodd yr hanes. Yr oedd eu nifer o ugain i ddeg ar hugain, ar ol gwneyd pob peth yn barod, yn cychwyn ar eu hunion ar ol yr ysgol, un prydnawn Sabboth, o Gapel Ucha, Clynog. Yr oedd darpariaeth iddynt gael ymborth, sef pryd o faidd, ar eu ffordd, yn Llwyngwanad-isa, amaethdy rhwng Capel Ucha a Bwlchderwin, gyda hen chwaer o'r enw Sian Robert, yr hon a ddangosodd lawer o garedigrwydd at grefydd a Methodistiaeth, yn ystod ei hoes. Yr oedd yr hen chwaer wedi gwneyd pob peth yn barod ar eu cyfer, ac yn eu disgwyl. Yna cychwynent rhyngddynt a Thremadog, at y nos, lle y caent odfa. Nid yw