Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mr. Jones yn sicr pa un ai y tro hwn, ynte yn fuan ar ol hyn, y bu yn gwrando ar y Parch. John Phillips, yn pregethu yn yr odfa hon. Y noswaith hon, lletyent gyda'u gilydd yn Farm Yard, fferm helaeth ar y pryd, ger Tremadog. Y rheswm paham y lletyent yno oedd, fod y wraig yn chwaer i wraig Brynifan, Clynog. Boreu Llun, aent trwy y fan lle y saif tref Porthmadog arno yn awr. Prin y gellir dweyd fod y lle yn bod y pryd hwnw. Ar y rhan fwyaf o'r lle y saif y dref arno yn awr, yr oedd eithin anferth o faint yn tyfu, bron gymaint a choed o faint gweddol. Mynych y bu pererinion Sasiwn y Bala yn cynal cyfarfodydd gweddi yn nghanol yr hen eithin hyn, ac y bu sain cân a moliant yn esgyn rhyngddynt tua'r nefoedd. Byddwn bron a meddwl weithiau mai dyma paham y mae Porthmadog wedi ei bendithio â Methodistiaid mor ragorol, am fod eu tai wedi eu hadeiladu ar y llanerch lle bu hen seintiau Lleyn ac Eifionydd yn gweddio ac yn molianu, ar eu ffordd i'r Bala. Y boreu a'r prydnawn, yr oeddynt yn "Seiat Fisol" y Penrhyn; a'r nos yn gwrando pregeth yn Llan, Ffestiniog, ac yn lletya yno. Erbyn cyraedd cwr mynydd Migneint yn Mhont-yr-afongam, boreu ddydd Mawrth, yr oedd y fintai wedi chwyddo, nes bod oddeutu cant a haner mewn rhifedi. Ac fel arfer, yr oedd yn rhaid cael cyfarfod gweddi yn y lle. Galwai y diweddar Mr. Robert William, Factory, ger Penmorfa, tad y Parch. R. O. Williams, Porth Amlwch, ar Owen Owens, ymysg eraill, i weddio. Ac er y byddai Owen Owens yn hynod o effeithiol bob amser yn gweddio, yr oedd yn fwy felly y tro hwn na braidd un amser. Yr oedd dau beth, o leiaf, yn peri iddo fod felly, sef ei deimladau drylliog ef ei hun, newydd fod dan ddisgyblaeth, ynghyd ag ysbryd cynes y pererinion i Sasiwn y Bala. Feallai hefyd y gallai fod yn amser diwygiad y flwyddyn 1832. Credwn fod hyn wedi cymeryd lle, un ai yn y flwyddyn 1831, neu y flwyddyn 1832. Rhwng y naill beth a'r llall, yr oedd gweddi Owen Owens y boreu hwnw yn un i'w chofio gan bawb oedd yn bresenol. Dywedid nad oedd yno yr un llygad sych yn y lle. Clywsom dri neu bedwar oedd yn bresenol yn son am y weddi; ond nis gwyddom am neb yn awr yn fyw ond Mr. Jones. Swn pechadur drylliog ac edifeiriol oedd yn y weddi o'i dechreu i'w diwedd. Mae Mr. Jones yn cofio fod Owen Owens a'i ddwylaw i fyny, ac yn gwaeddi yr ymadrodd hwnw lawer gwaith drosodd, "Dal di ni, Arglwydd,"—gyda theimlad anarferol. "Mae deuddeng mlynedd o grefydda wedi methu'n dal ni. Dal di ni, Arglwydd. Mae pum' mlynedd o fod mewn