Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

swydd, wedi methu'n dal ni. Dal di ni, Arglwydd. Dal di ni, Arglwydd." Cyfeiriai at ei elynion ysbrydol fel Philistiaid, a dywedai,—"Arglwydd mawr, dyma fi wedi d'od adra' eto o wlad y Philistiaid. Mi fuon yn galed iawn wrtha i, yn treio tynu fy llygaid i; ond gwae nhw os tyfith fy ngwallt i eto." "Seithwaith y syrth y cyfiawn, ac efe a gyfyd drachefn," meddai; "ac fe syrthiodd Owen y Gors trwy fygwth tagu ei frawd; ond, bendigedig, mae o wedi codi eto." Gofynai ryw hen frawd iddo tua'r adeg hon, "Oes rhywbeth yn hwn a hwn, deudwch?" "Niwn i ddim," meddai Owen Owens, "ar gareg fy medd i y gwel'is o fwyaf erioed," gan gyfeirio at y brawd hwnw fel un oedd wedi bod yn llawdrwm arno ef pan o dan ddisgyblaeth, ac yn cymeryd mantais ar hyny i ddyfod i sylw.

Ymhen tua blwyddyn ar ol disgyblu Owen Owens, anfonodd y Cyfarfod Misol y ddau wr a fu yno o'r blaen i eglwys Bwlchderwin, ac ail ddewiswyd Owen Owens i'w swydd drachefn, a dewiswyd un arall o'r newydd, sef Humphrey Prichard, at yr hwn y cyfeirir yn y tudalenau blaenorol A chredwn na bu nemawr i flaenor yn holl Sir Gaernarfon yn fwy ffyddlon i ddilyn y Cyfarfodydd Misol nag y bu Owen Owens am y pum mlynedd a deugain dilynol, a hyny yn fynych trwy gryn anhawsderau.



PENOD XIII.
OWEN OWENS O RAN EI DDYN ODDIALLAN.

Hynodrwydd ei wynebpryd.—Yn debyg i John Evans o'r Bala.—O gyfansoddiad cryf a chadarn.—Yn hardd a heinyf o gorff.—Ei lygaid, &c—Ei wisg.—Yn siarad mewn Cyfarfod Misol.

BYDDAI llyfr ar Owen Owens, heb gynyg rhoddi darluniad o'i ddyn oddiallan yn anfaddeuol; oblegid yr oedd y fath hynodrwydd ynddo ag oedd yn tynu sylw pawb ato ar unwaith. Nis gallai y mwyaf dwl a difeddwl beidio craffu arno ar yr olwg gyntaf. Ac yr oedd braidd yn anmhosibl ei anghofio ar ol ei weled ond unwaith. Os ydyw y darlun sydd ar gael o'r hen brege:hwr hynod hwnw, John Evans, o'r Bala, yn weddol gywir, credwn fod llawer o debygrwydd yn ngwynebpryd Owen Owens i'r hen batriarch nodedig hwnw. Yr oedd gwyneb a phen y naill a'r llall yn hir anarferol, Nid ydym yn gwybod i ni erioed