Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

weled gwyneb a phen mor hir ag oedd gan Owen Owens; a diau y gallesid dweyd rhywbeth yn debyg am John Evans. Yr oedd gan Owen Owens hefyd gnwd trwchus o wallt ar ei ben, a hwnw yn gyffredin yn tyfu yn syth; yr hyn oedd yn peri fod ei ben yn ymddangos yn hwy nag ydoedd mewn gwirionedd. Ond gallem feddwl mai ychydig o wallt oedd gan John Evans. Ac y mae yn hysbys fod John Evans yn un a golwg nodedig o dywysogaidd a pharchedig arno. Sylwir arno yn y "Cyffes Ffydd," fel " y gwr hynaf a pharchedicaf yn y Corff;" a diameu fod ystyr arbenig i'r gair " parchedicaf" yn y cysylltiad hwn; yr oedd yn dra pharchedig yr olwg arno. Arferai y diweddar Barch. Henry Rees ddweyd am dano, fod ei ymddangosiad yn peri iddo feddwl am Abraham, tad y ffyddloniaid. Nid ydym yn dywedyd fod Owen Owens mor benderfynol, mawreddog, a thywysogaidd yr olwg a'r hen dywysog hwnw; eto, mae yn bur amlwg fod yna debygrwydd mawr yn y naill i'r llall.

O ran maintioli, yr oedd Owen Owens yn tueddu yn hytrach at fod yn dal, gan ei fod oddeutu pum' troedfedd a naw modfedd o daldra, gallem feddwl. Yr oedd yn bur esgyrnog, a chanddo gyfansoddiad nodedig o gryf a chadarn. Tueddai at fod yn deneu yn hytrach nag yn dew. Ac os byddai rhyw orchwyl yn yr ardal yn galw am nerth corfforol mwy na'r cyffredin, byddai Owen Owens yn bur sicr o gael rhan o hono. Pan oedd efe yn ieuanc, nid oedd ond ychydig o bontydd yn y wlad, a dim ond sarnau i fyned dros yr afonydd. Mewn angladdau y pryd hwnw, y dull cyffredin o gario yr elor a'r arch oedd, ar ysgwyddau. Ac nis gallai ond dau, un ymhob pen, gario yr elor dros y sarnau. Yr oedd y gwaith hwn yn gofyn am y dynion cryfaf yn yr ardal. Ac Owen Owens a'i frawd, Roger Owen, fyddai yn gwneyd y gwaith bob amser, meddir. Gweithiodd yn galed ar hyd ei oes. Gwelid ef gyda'i wallt gwyn yn gwneyd y caledwaith ar hyd ei dyddyn, ymron i'w ddiwedd. Un diwrnod, yr oedd yn y cae yn aredig, a hen wr ffraeth yn cerdded y llwybr heibio iddo. "Gwaith go drwm ydy' hwn hefo'r gwallt gwyn yna, Owen Owens," meddai "'Dydw i yn clywed mo'no fo ddim tipyn trymach na phan yr oedd o yn ddu," meddai Owen Owens, yn y fan.

Heblaw bod yn gryf a chadarn, yr oedd Owen Owens hefyd yn hardd nodedig, a heinyf iawn o gorff. Braidd na allesid meddwl hyny wrth edrych ar ei ddarlun sydd yn y llyfr hwn. Nid ydym yn awr yn cyfeirio at ei ben, gan fod hyny wedi ei wneyd eisoes. Ni byddai yntau yn meddwl rhyw lawer