Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'i ben. Yn wir, y mae genym ryw adgof ei fod yn cywilyddio o'i ben, os nad yn tueddu i'w anmharchu, gan ei gymharu i ben y creadur cyndyn hwnw ymysg yr anifeiliaid. Ond gwell peidio myned ryw lawer yn y cyfeiriad yna, feallai. Ond yr oedd yn ymfalchio cryn lawer yn ei gorff, yn enwedig ei goes a'i droed. Pan yr oedd efe yn weddol ieuanc yr oedd y clôs pen—glin mewn cryn fri; ac felly byddai y goes yn y golwg i gyd, pa lun bynag fyddai arni. A'r neb a fyddai wedi ei fendithio â chroth fawr a meilwng bychan, a throed hardd, ystyrid y dyn hwnw yn lled wynfydedig. Ac yr oedd Owen Owens yn perthyn i'r dosbarth gwynfydedig hwn. Ni welid corff a choes harddach yn yr holl wlad; ac am ei groth, ei feilwng, a'i droed, yr oeddynt yn berffeithrwydd tegwch. Yr oedd hefyd yn gyflym, chwimwth, a heinyf ar ei droed. Rhedai fel ewig. Os byddai rhyw greadur ar y tir yn dianc, os gallai traed dynol ei ddal, byddai Owen Owens yn bur debyg o wneyd hyny. Digwyddodd i ddau borchell cryf ddianc o'r sach ar Forfa Saint, Caernarfon, unwaith. Ond mewn ychydig eiliadau yr oedd Owen Owens a Roger ei frawd wedi eu sicrhau, er fod yn rhaid cael cyflymdra yr ewig at y gorchwyl.

Pan yn ieuanc yr oedd gwallt Owen Owens yn "ddu lo'wddu, fel y frân." Pan yn weddol ieuanc, trodd ei wallt yn lâs, a darluniai rhywun ef "a'i ben glâs a'i glôs pen glin." Ond er's llawer o flynyddoedd cyn marw yr oedd wedi myned yn wyn "fel eira yn Salmon." Fel y gwelir yn y darlun, llygaid gweddol o ran maintioli oedd ganddo, ond hynod o fywiog, ac o liw melynddu. Yr oedd ganddo drwyn lled fawr, Rhufeinig neu fwäog, sef a chrwbi yn ei ganol, a golwg awdurdodol arno. Ac yr oedd ganddo wefusau lled deneuon, a hollol at ei alwad, i'w trin fel y mynai. Yr oedd rhyw fywiogrwydd hynod yn nghyhyrau ei wyneb hyd yn nod wedi myned yn hen wr. Dywedir y gallai drin ei wefusau, ei eiliau, a hyd yn nod ei glustiau fel y mynai, ymron. Deuai direidi i'r golwg yn fynych yn nghil ei lygaid, yn nghwr ei wefusau, ac yn ysgogiadau ei wynebpryd. Yr ydym y funyd hon yn cofio am dano yn gwrando mewn Cyfarfod Misol un tro, a "hancas" wedi ei thaflu dros ei ben, a hen weinidog sydd eto yn fyw yn pregethu ar y gair hwnw, "Pa fodd y diangwn ni os esgeuluswn iachawdwriaeth gymaint?" Dangosai y pregethwr fawredd yr iachawdwriaeth oddiwrth y ffaith fod yr angylion yn gwasanaethu er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth. "Beth," meddai, "ydyw y gomed sydd yn y golwg y nosweithiau hyn?