cododd Owen Owens ar ei draed i siarad, a dywedodd, "Yr oedda nina tua Chlynog a Bwlchderwin acw yn teimlo yn anarferol pan gollodd Jones Parry. Ac yr oedd rhai yn myn'd i ysbryd ofnadwy iawn. Yr oedda nhw yn dweyd fod gweision ffermwyr ffordd acw yn rhegi yn anghyffredin. Ni ddar'u mi ddim rhegi w'ch ch'i," meddai, gan wneyd ystum a golwg arno ei hun, a rhoddi pwyslais, fel pe buasai hyny yn rhyw rinwedd mawr ynddo. Aeth pawb i chwerthin drwy y lle, ac nid oedd neb yn mwynhau y peth yn fwy na Dr. Hughes, a chwarddwyd y teimlad drwg i ffwrdd i raddau helaeth. Ond yr oedd Owen Owens yn edrych mor sobr a difrifol a sant yn nghanol y cwbl. Yr oedd Dr. Hughes yn eistedd mewn sedd yn ymyl y drws. Ac yr oedd Owen Owens yn myned heibio iddo wrth fyned allan. Ysgydwai Dr. Hughes law ag ef yn hynod o gynes a siriol, gan ddweyd, "Sut yr yda ch'i? Yr oedda ch'i yn ddoniol anghyffredin." Yr oeddym yn cyd-letya ac yn cyd-gysgu gydag Owen Owens y noson hono yn nhŷ y diweddar Mr. John Parry, Fronerch, blaenor parchus yn y lle. Y drefn y pryd hwnw mewn Cyfarfodydd Misol oedd rhoddi un mewn oedran, ac un ieuanc i gyd-letya gyda'u gilydd. Ymhen y tair blynedd ar ol hyn, sef Ebrill 9fed, 1877, y flwyddyn y bu farw Owen Owens, yr oedd Cyfarfod Misol drachefn yn Fourcrosses. Dechreuai Owen Owens yr odfa y noson gyntaf, o flaen y Parchn. Thomas Owen, Porthmadog, ac Evan Jones, Caernarfon. Lletyai gyda'i hen gyfaill, y diweddar Griffith Owen, Plas-bel; a mawr y mwynhad a gafodd y teulu gydag ef. Dywedai un llanc oedd yn gwasanaethu yno, yr hwn oedd fachgen lled anystyriol, y buasai efe yn barod iawn i dalu am lety ac ymborth Owen Owens, er mwyn cael ei glywed yn cadw y ddyledswydd deuluaidd.