Un o'r pethau mwyaf amlwg yn Owen Owens, os nad yn wir yr amlycaf oll, oedd ei arabedd, a'r arabedd hwnw yn llawn o'r digrifol. Yr oedd hyn mor naturiol iddo ag anadlu. Yr oedd hyn ynddo er yn blentyn ac yn ddyn ieuanc, a glynodd ynddo ar hyd ei oes ac i'w ddiwedd. Gallai gadw pawb yn ddifyr o'i ddeutu hyd a fynai. Yr oedd hyn ynddo fel y gwelsom pan yn blentyn bychan. Ac wedi tyfu i fyny yn llanc, ni byddai unrhyw gwmni yn ardal ei enedigaeth yn gyflawn heb Owen, Pantglas-ucha, ynddo i beri difyrwch. Yr oedd wedi ei wahodd un tro i briodas, oblegid nid ystyrid hi yn gyflawn heb ei bresenoldeb ef. Trodd yr ymddiddan am bris yr anifeiliaid, a dywedodd rhywun fod y moch yn isel iawn. "Nag ydy' nhw wir," meddai Owen Owens; "mi wel'is i fochyn yn uchel iawn rwan wrth ddwad. Yr oedd o mor uchel a phen tô rhyw dŷ." Yr oedd bargod tô y tŷ hwnw yn gyd-wastad â'r ddaear o'r tucefn iddo. A phan yr oedd Owen Owens yn myned heibio yr oedd mochyn wedi dringo arno, ac yn cerdded ar hyd-ddo. Ac yr oedd y dywediad hwn yn ddigon i wneyd y briodas hono yn llawen am gryn ysbaid. Ac wedi dyfod at grefydd yr oedd y ffraethineb a'r digrifwch hwn yn aros yn Owen Owens; oblegid nid yw crefydd yn dinystrio dim sydd yn naturiol mewn dyn. Nid yw gras yn lladd dim ond y drwg a'r llygredigaeth sydd yn y natur ddynol. A deallodd Owen Owens natur crefydd ar unwaith. Deallodd nad oedd yn galw am iddo dynu gwyneb hir, fod natur wedi gwneyd ei wyneb ef yn llawn ddigon hir yn barod. Ac am blygu pen fel brwynen, ni wybu ddim am dano ar hyd ei oes faith. Yr oedd y bachgen a'r llanc direidus a ffraeth Owen, Pantglas-ucha, yn aros yn yr hen flaenor doniol Owen Owens, Cors-y-wlad, ar hyd ei oes. A da iawn hyny, neu buasem wedi ein hamddifadu yn y wlad hon o un o'r cymeriadau crefyddol mwyaf hynod yn y ganrif bresenol, ac un a dreuliodd oes faith yn dra defnyddiol gyda chrefydd.
A'r hyn sydd yn dra hynod yn amgylchiad Owen Owens, fel ymhob un tebyg iddo ydyw, y byddai ar adegau yn hynod o isel ei feddwl. O gymaint ag y byddai ei ysbryd yn uwch na'r lliaws, o gymaint a hyny y byddai yn myned yn is na neb ar adegau. Bu felly am dymor pan yn lled ieuanc. Yn fuan wedi priodi y tro cyntaf, deallodd nad oedd amgylchiadau ei briod mor dda ag yr oedd wedi meddwl. Ac effeithiodd hyny gymaint arno, fel y syrthiodd i iselder meddwl mawr; mor fawr, fel yr effeithiodd ar ei iechyd am gryn amser, ac y tybiodd llawer mai colli y dydd a wnai. A'r hyn a'i gwaredodd yn y diwedd, ar ol