treulio llawer ar feddygon, meddir, oedd yfed llaeth gafr. Prynwyd un i'r amcan hwnw, a chadwyd hi, nes iddo lwyr wellhau. Ac ymhen llawer blwyddyn ar ol hyny, syrthiodd i'r un iselder drachefn. Bu farw geneth fach iddo o bedair i saith mlwydd oed. Yr oedd yntau wedi rhoddi ei galon yn gymaint arni, fel y bu y brofedigaeth bron a bod yn ormod iddo. Cyfaddefodd y bu bron iddo daflu ei hun i ryw lyn, sef llyn corddi Maesog, wrth fyned i chwilio am le beddrod iddi. Ac nis gallwn anghofio hanesyn a ddywedodd wrthym ryw ddwy neu dair blynedd cyn ei farwolaeth. Yr oedd Owen Owens i fod yn llywydd i gyngherdd Mynyddog yn Nghapelisaf y Garn, ryw nos Sadwrn; ond ni ddaeth Mynyddog at ei gyhoeddiad. Ac felly trethwyd doniau a ffraethineb yr hen frawd i raddau pell iawn, ac yntau, erbyn hyn, mewn cryn oedran. Yr ydym yn cofio ei fod yn dweyd yn ystod y cyfarfod: "Yr yda ch'i wedi gofyn i mi ddyfod yma yn llywydd, ond 'does yma ddim llong i'w llywio." Ond er iddo gael ei adael yn unig ymron yn y cyfarfod, ac er y siomedigaeth, llwyddodd er hyny i beri ei fod yn gyfarfod lled fywiog a dyddorol. Yr oeddym yn cyd-letya ac yn cyd-gysgu gydag ef y noson hono; a dywedai ei fod yn teimlo ei feddwl yn isel iawn, ac mai felly y byddai bob amser wedi bod mewn cyfarfod o'r fath. Dywedai. hefyd, y byddai yn meddwl llawer ar adegau felly am hanesyn a glywsai am actor yn Paris rywbryd. Edrychid arno fel y mwyaf enwog yn y dref hono yn y gwaith hwnw. Ond syrthiodd i iselder meddwl mawr, ac i wendid corfforol anghyffredin. Ac er myned at y meddygon mwyaf medrus ac enwog, nid oeddynt yn gallu gwella dim arno. O'r diwedd, dywedodd un meddyg wrtho heb wybod pwy ydoedd, na pha beth oedd ei enw, mai yr unig beth y gwyddai efe am dano fuasai yn debyg o'i wella fuasai myned i edrych a gwrando ar—yn actio, gan ei enwi ef. "Y fi ydy' hwnw," meddai yntau, yn anobeithiol iawn, nes yr oedd y meddyg wedi rhyfeddu yn fawr. Yr ydym yn deall fod yr hanesyn hwn yn cael ei gysylltu hefyd â Garrick, y chwareuydd adnabyddus ac enwog.
Feallai hefyd mai dyma y lle priodol i ddweyd nad oedd ganddo ryw lawer o hyder ynddo ei hun. Yr oedd ganddo ddawn anarferol i gadw Seiat, fel y mae yn hysbys. Ond, eto, os na byddai y blaenoriaid eraill yno ar y dechreu, syrthiai ei feddwl, ac ymollyngai ei ysbryd yn y fan. Llawer gwaith y caed trafferth fawr gydag ef ar adegau felly, rhag dianc adref yn ei ol, a pheidio myned i'r capel o gwbl. Ond gwyddai y