Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fanau, megis yn Nghriccieth, y Garn, Brynkir, &c. Byddai trafodaeth mynych yn y Cyfarfodydd Misol ar hyn, ac yr oedd Owen Owens yn ffugro cryn dipyn yn y trafodaethau hyn. Yr ydym yn cofio mewn un Cyfarfod Misol fod rhywun yn gofyn, er mwyn dyfod i ryw oleuni ar y mater, pan yr oedd Owen Owens ar ei draed, pa faint o ffordd oedd o Fwlchderwin i un o'r capelau eraill. "Wn i yn y byd w'lwch chi," meddai yntau, gan edrych mor ddiniwed a cholomen; "'does dim cerig milldiroedd yn y corsydd acw, dim ond myn'd, myn'd, o hyd w'ch ch'i." Ni fynai Owen Owens yn y mater yma "symud mor hen derfyn, yr hwn a osododd y tadau." Brynengan, Bwlchderwin, a Thaiduon oedd efe wedi ei weled. A braidd nad oedd yn barod i ddweyd, "Melldigedig yw yr hwn a symudo derfyn ei gymydog;" os nad hefyd i chwanegu, a dyweded yr holl bobl, Amen." Ond yr oedd Brynkir yn achos newydd, ac yr oedd yn rhaid ei gysylltu gyda rhywle. Ac ni welai y Cyfarfod Misol yr un llwybr esmwythach na rhoddi Brynkir a Brynengan gyda'u gilydd, a Bwlchderwin a Phantglas (sef Taiduon) gyda'u gilydd. A chan fod y ddau le diweddaf yn lled wan, yr oedd y Cyfarfod Misol yn addaw eu cynorthwyo i gynal y weinidogaeth. Ond erbyn Cyfarfod Misol Tydweiliog, dyma lythyr o Fwlchderwin "yn gwrthod y rhodd o ddeuddeg punt a basiwyd iddynt yn Nghyfarfod Misol Brynbachau." A'r adgof diweddaf sydd genym am hyn ydyw yr hyn a ddigwyddodd yn Nghyfarfod Misol Bwlchderwin, Mai 31, 1869. Mae yr olygfa yn fyw o flaen ein meddwl y funyd hon:—Owen Owens a'i ben gwyn mawr yn sefyll ar y llawr gan gydio yn ymyl y sêt fawr, a'i wyneb i'r un cyfeiriad, a'r hen foneddwr cywir a chrefyddol, y diweddar Mr. Jones, Ynysgain, yn sefyll yn ei wyneb, o fewn ryw lathen iddo, gan ei gyfarch gydag awdurdod Ustus Heddwch:—"Mae hi'n dyrysu'n lân hefo'r teithiau, yn enwedig yn Mwlchderwin yma. Ac mae nhw yn dweyd allan yna mai arnoch ch'i, Owen, y mae'r bai i gyd. Ac os felly, mi ddylach altro, ac mi ddylach edifarhau." Ond yr oedd tafod Owen Owens mor ddi-lywodraeth a'r asyn gwyllt y sonia Job am dano, yr hwn "a chwardd am ben lliaws tref: ni wrendy ar lais y geilwad." Mae yn ateb ar un gwynt:—"Mi fedrwn ni setlo y mater yma heb yr un Ustus Heddwch; ac am edifarhau, mi edifarha pan ga i amser." Ar ddiwedd y cyfarfod, dywedai un arall wrth Owen Owens, yr hwn oedd yn bur hyf arno:—"Yr o'n i yn dy weled di heddyw, Owen, yn debyg iawn i fel y byddem ni pan yn blant, yn troi o amgylch 'cocyn hitio,'