Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhei'ny o flaen y seiat nes dotio pawb yn y lle. Dyma oedd yn ei wneyd yn gymaint o favourite yn y Cyfarfodydd Llenyddol. Gwelai rywbeth priodol a digrifol i'w ddweyd ar darawiad llygad, a gosodai ef allan yn yr ymadrodd mwyaf pert new ysmala ar unwaith. Clywsom y Parch Edward James (A.), Nefyn, yn dweyd er's ychydig ddyddiau yn ol ei fod yn llywydd mewn Cyfarfod Llenyddol unwaith yn Nghapel Helyg. Yr oeddis wedi cynyg gwobr am araeth ddifyfyr ar ryw fater na'i gilydd, ond ni ddaeth neb ymlaen. A gwnaeth Owen Owens araeth ei hunan. Dywedodd un o'r beirniaid ei fod yn haeddu y wobr, a chynygiwyd llyfr iddo yn dwyn y teitl, "Y ffordd i uffern." "Na," meddai yntau yn y fan, "'fyna i mono fo, scapio (escape) y lle hwnw ydy' mhwnci." "Ni ddywedodd o ddim tebyg i hynyna y noson hono," meddai Mr. James, "ond gwelwn ar unwaith fod yr hen ddawn yno." A chlywsom Mr. Rees Roberts, Harlech, yn dweyd er's ychydig wythnosau yn ol, ei fod mewn Cyfarfod Llenyddol yn y Garn tua'r flwyddyn 1853 neu 1854, ac Owen Owens yn llywydd. Yr oedd côr yn canu. Ymddangosai Owen Owens tra yr oedd y canu yn myned ymlaen fel un yn cysgu, yn hollol lonydd, a'i lygaid yn nghauad. Ond y foment yr oeddynt yn darfod, neidiodd i fyny yn sydyn, a golwg gynhyrfus arno, ac meddai, "Bobol anwyl, mi 'ddyl'is i mai yn y nefoedd yr oeddwni: y clock wedi stopio, a chanu ardderchog." Nid oedd y clock yn myned ar y pryd. Nid allai aros bod yn ara' deg gyda dim, yn enwedig yn moddion gras. Yr oedd hen flaenor o'r enw Sion Jones, Llwyngwanad, yr hwn oedd yn ysgrythyrwr a duwinydd rhagorol, ond oedd yn hynod bwyllog ac araf gyda phob peth. Galwai Owen Owens arno i fyned i weddi. Ond hwyrfrydig iawn oedd Sion Jones i godi, er nad oedd yn meddwl peidio ufuddhau. "Ddowch ch'i ynte, Dafydd Phylip," meddai Owen Owens, "tra y bydd Sion Jones yn hel ei bac?”

Yr oedd yn ieuangaidd ei ysbryd, ac yn cydfyned â'r oes yn dda. Yr oedd yn eang ei ysbryd, ac yn gyfaill calon i'r bobl ieuainc. Yr oedd felly ar hyd ei oes, ac yr oedd felly i'w ddiwedd. Yr oedd yn llawn o ysbryd cyhoeddus. Pa symudiad bynag er daioni fyddai yn y wlad, ni byddai trafferth yn y byd i gael Owen Owens i ysgogi gydag ef. Na, byddai efe yn un o'r rhai cyntaf i ymgymeryd ag ef, ac i daflu hyny o ddylanwad a feddai o'i blaid. Yr oedd yn ddwy-ar-bymtheg oed pan ddechreuodd y Cyfarfodydd Ysgolion yn y wlad, a gweithiodd yn rhagorol gyda hwy am yn agos i driugain mlynedd. Bu yn