Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llywydd arnynt, yn ymwelwr a'r ysgolion, ac areithiodd fwy na mwy ynddynt. Cynhaliodd hefyd lawer o gyfarfodydd ar nos Sabbothau, oeddynt yn fath o Gyfarfodydd Ysgolion, ar raddeg fechan. Diau iddo wneyd llawer o ddaioni gyda'r cyfarfodydd hyn yn ardaloedd Eifionydd. Cynhelid hwy yn lle cyfarfod gweddi mewn manau na byddai pregeth ynddynt. Byddai parotoi mawr ar eu cyfer, a disgwyliad mawr am danynt. Yr oedd cyfarfod felly un tro yn Nghwmcoryn, ac yr oedd Owen Owens wedi cymeryd yn gwmni gydag ef ddyn ieuanc, y diweddar Mr. Owen Roberts, Hendy, meddyg anifeiliaid adnabyddus yn y rhan yma o'r wlad. Ar y diwedd yr oedd Owen Owens yn bwyta yn y tŷ capel, ac Owen Roberts yn ei aros wrth y drws oddiallan. "Ydy' o'n proffesu?" gofynai rhywun o bobl y lle i Owen Owens. "Wel, mae o'n proffesu y medr o fwyta," oedd yr ateb ar unwaith. Mewn ambell ysgol fechan ni cheid Cyfarfod Ysgol rheolaidd. A'r hyn a geid yn lle hyny fyddai un o'r cyfarfodydd hyn gan Owen Owens. Cynhaliodd amryw o honynt yn ysgol y Gwindy. Dywedir y byddai yn cael hwyl anghyffredin i holwyddori ar yr achlysuron hyn.. Dywedir y bu yma gyfarfod hynod iawn tua'r flwyddyn 1846. Y mater yr holid arno oedd y benod gyntaf yn y llyfr bychan hwnw, "Oriau olaf Iesu Grist," gan Lewis Jones o'r Bala. Yr oedd y teimlad dipyn yn ddwys ar hyd y cyfarfod wrth adrodd am ing Gethsemane, yn null tyner a hapus y llyfr bychan hwnw; ond ar waith gwraig y tŷ, Mrs. Owen, priod y diweddar Barch. John Owen, yn adrodd y geiriau hyny gydag aceniad clir, pwyslais priodol, a theimlad tyner, tua diwedd y cyfarfod, "Sethrais y gwinwryf fy hunan, ac o'r bobl nid oedd un gyda mi. Edrychais hefyd ac nid oedd gynorthwywr; rhyfeddais hefyd am nad oedd gynhaliwr," torodd pawb yn y lle i wylo. Dro arall yr oedd Owen Owens yn yr hwyl fawr yn holi, a throes at wr y tŷ, y diweddar Mr. John Roberts, a gofynodd iddo, "Tybed a fydd hi yn well yn y nefoedd, deudwch, nag ydy' hi yma heddyw?" Ac meddai yntau yn ol, "Ni welodd llygad, ac ni chlywodd clust, ac ni ddaeth i galon dyn, y pethau a ddarparodd Duw i'r rhai a'i carant ef." Parhaodd Owen Owens i ddilyn y Cyfarfodydd Ysgolion hyd o fewn ychydig wythnosau i'w ddiwedd. Er nad oedd ganddo unrhyw swydd ynddynt er's blynyddoedd, eto yr oedd y fath ymlyniad ynddo wrthynt, a'r fath groesaw iddo ynddynt, fel y daeth i un o'r rhai diweddaf, os nad y diweddaf oll, a ddigwyddodd yn ystod ei fywyd. Yr oedd yn agos i ddeugain oed pan ddaeth dirwest i'r wlad. Ond