Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Undeb yr Ysgol Sabbothol, y Safonau, a'r Arholiadau, am rai blynyddoedd ar ol ei farwolaeth; ond credwn y buasai Owen Owens mor selog drostynt a neb, pe buasai yn fyw. Yr un fath am bob symudiad yn ei gapel ei huu. Yr oedd yn ystwyth iawn i gyd—fyned â phob symudiad da. Un peth y clywsom y caed tipyn o drafferth gydag ef oedd, cael casgliad at y weinidogaeth yn y gynulleidfa. Dangosai gryn wrthwynebiad i hyny. Ymliwiai un o'r gwrandawyr gydag ef, gan ddweyd, "Beth sydd gynoch ch'i yn erbyn cymeryd ein harian ni at y weinidogaeth, os yda ni yn leicio eu rhoi nhw? Mae nhw cystal arian a'ch rhai chwithau." "Na," meddai yntau, "mi fedrwn ni fyn'd ymlaen hebddoch ch'i, os nad yda ch'i am roi eich hunain." Chwareu teg iddo, onide? Onid oedd ganddo reswm lled dda? Yr oedd hefyd yn erbyn rhoddi Seiat ar ol y bregeth. Ond, onid oedd rhai o ddynion goreu a doethaf y Cyfundeb o'r un syniad?

Yr oedd doniau Owen Owens hefyd yn amrywiol iawn. Nid mewn un cylch yr oedd ei ddawn yn taro. Gwelir llawer yn dra chymwys mewn un cylch, ond yn ddigon anfuddiol mewn cylchoedd eraill; ond yr oedd dawn Owen Owens yn gymwys i gyfarfod â chyfarfodydd tra gwahanol i'w gilydd. Yr oedd ei ddawn yn gymwys i'r cyfarfod eglwysig, ac i'r Cyfarfod Llenyddol; i'r cyfarfod gweddi, fel y cyfarfod dirwestol; i'r angladd, yn gystal ag i'r cyngerdd. Ac yr oedd yn anhawdd gwybod ymha le yr oedd fwyaf; yn ei weddiau, ynte yn ei areithiau. Yr oedd lawn mor hynod yn y naill gylch a'r llall. Ac os byddai yn ddigrifol yn ei areithiau weithiau, ac yn cynyrchu chwerthin, ceid odid fawr ryw sylw bachog a gwir ymarferol yn ymyl hyny.

Yr oedd yn ddiwyd, ymroddgar, a gweithgar gyda'r byd. Er mor weithgar ydoedd gyda chrefydd, nid oedd felly ar draul esgeuluso ei amgylchiadau. Yr oedd yn un o'r bobl fedrus hyny sydd yn gallu gwneyd y goreu o'r ddau fyd. Er fod ei amgylchiadau yn dra isel a chyfyng, fel y cyfeiriwyd, pan yr oedd yn ieuanc, eto, cyn marw, yr oedd yn dra chlyd arno, ac yn werth llawer o ganoedd o bunau. Credai ac actiai gyngor hen Ficer Lianymddyfri, i'w fab:

"Cod y bore ar y wawr—ddydd,
Am cyntaf a'r uchedydd;
Hyn a'th helpia i gael hir iechyd,
Dysg, a dawn, a chyfoeth hefyd."


Elai i'w wely rhwng wyth a naw o'r gloch y nos, a chodai rhwng pedwar a phump yn y boreu. A byddai yn rhaid i bawb fyddai