Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ei wasanaeth wneyd yr un modd. Gwnai hyn hefyd ar y Sabboth fel pob diwrnod arall.

Yr oedd yn dyner fel disgyblwr. Dywedir am y diweddar Barch. Joseph Thomas, nad oedd yn ddisgyblwr llym, ac nad oedd ganddo feddwl mawr o'r bobl oedd yn gryfion yn y cyfeiriad hwnw. "Dywedai, hefyd, i ni golli canoedd o'n haelodau oherwydd ffolineb, ac ysbryd angharedig rhai pobl gyda disgyblu." Gallesid meddwl fod Owen Owens yn debyg iddo yn hyn; o leiaf, y mae genym engreifftiau o'i dynerwch a'i gallineb gyda hyn; a hyny yn effeithio er daioni ar y rhai yr arferid tynerwch tuag atynt. Gallwn gyfeirio at ddwy engraifft o hyn, y rhai sydd yn gredyd i'w ben a'i galon, ac yn berarogl i'w goffadwriaeth. Yr oedd bachgen ieuanc o Sir Fon, o'r enw Thomas Parry, wedi dyfod i wasanaethu i'r ffarm agosaf i Owen Owens, sef ffarm arall o'r enw Cors-y-wlad, lle yr oedd Edward Parry yn byw. Daeth a phapyr aelodaeth i Fwlchderwin ar ddechreu y tymor; ond trwy esgeulusdra a dylanwad cwmni drwg, ac yntau yn fachgen llawn bywyd a direidi, aeth y tymor heibio heb iddo ef fod yn y Seiat ymron o gwbl. Yr oedd ei dad yn hen wr duwiol iawn, a'r peth diweddaf a ddywedodd wrtho wrth ei ddanfon dros y Fenai oedd, am iddo ofalu am gael papyr aelodaeth i ddyfod yn ol. Ond erbyn diwedd y tymor, meddyliodd mor sobr fyddai gwynebu ei dad heb yr un papyr. Aeth at Owen Owens yn ei brofedigaeth i ddweyd ei gwyn. Anogodd yntau ef i ddyfod i'r Seiat ei hunan, ac y rhoddai efe y peth o flaen y Seiat mor dyner a thirion ag y gallai. Wedi i'r cyfarfod ddechreu, rhoddai Owen Owens y peth gerbron yn ei ddull plaen a deheuig ei hun:—"Mae Twm Parri wedi dwad ato ni heno fel y gwelwch ch'i, ni bu yma er's cryn amser o'r blaen. Mae wedi bod mewn tir lled bell. Ond y mae hyny wedi dyfod i boeni cryn lawer arno. Mae myned oddiyma heb bapyr aelodaeth wedi dwad i bwyso yn lled drwm ar ei feddwl. Mae meddwl am ddywediad olaf ei dad wrtho wrth adael Sir Fon yn pwyso yn drwm ar ei feddwl, am iddo ofalu am gael papyr aelodaeth i ddyfod yn ol. Dyna'r peth o'ch blaen ch'i, frodyr. Beth yda ch'i yn feddwl?" Fe ddywedodd amryw frodyr air, gan ddangos awydd am iddo gael papyr. Ac, meddai Owen Owens ar ol pawb:—"Wel, fe ro'wn ni bapyr i ti, Twm bach, ar goel," gan awgrymu eu bod yn rhoddi papyr iddo, gan obeithio y deuai yn well. A "choel" rhagorol fu hwnw i Thomas Parry. Adwaenem ef yn dda. Bu yn aelod am dymhorau ar ol hyny yn Mrynengan, un o'r eglwysi yr ydym