PENOD XV.
OWEN OWENS FEL GWEDDIWR.
Yn hynod ac effeithiol fel gweddiwr. Dechreu odfa yn Cefnweit.—Cyfarfodydd gweddi hynod yn Llwyngwanad, a'r dylanwadau.—Medrusrwydd i drin adnodau y Beibl yn ei weddiau.—Sylwadau disglaer ar weddi.—Yn gartrefol wrth orsedd gras.—Meddwl mawr am drugaredd Duw.—Yr arch a'r drugareddfa yn gwneyd y ddeddf yn swat.—Sylw John Evans, New Inn.—Iachawdwriaeth fawr mewn lled llaw.—Yn gartrefol yn ei weddiau.—Dull neillduol a gwreiddiol yr hen bobl wrth weddio.—Owen Owens a Griffith Jones, Tregarth.—Yn gwybod y dirgelwch sydd mewn gweddio.—Yn deall wrth weddio fod Duw yn ateb ei weddi—Engraifft o un o'i weddiau.
YR oedd Owen Owens yn hynod ar lawer cyfrif, ac mewn llawer cymeriad, ond credwn mai fel gweddiwr yr oedd fwyaf hynod o bob peth. Yr oedd yn hynod yn y Cyfarfod Llenyddol, yn y Sasiwn, yn y Cyfarfod Misol, yn y Seiat, yn yr Ysgol Sabbothol, &c.; ond credwn mai wrth orsedd gras yr oedd ei hynodrwydd mwyaf. Gellir dweyd ei fod yn enwog fel gweddiwr, os priodol yr ymadrodd. Clywsom amryw yn dweyd, y rhai a'i clywsant ef pan yr oedd yn ei amser goreu, na chlywsant neb erioed yn cael mwy o hwyl nag ef wrth weddio. "Gweddiai weithiau," meddai un, "nes y byddwn yn clywed fy ngwallt yn codi ar fy mhen." Byddai rhyw ddylanwadau ac effeithiau hynod yn canlyn ei weddiau ar adegau. Llawer gwaith y gwelwyd ac y teimlwyd pethau rhyfedd gyda'i weddiau. Ai i'r nefoedd ar ei union ar yr adegau hyny, a thynai y nefoedd i lawr i ganol y gynulleidfa. Ar adegau, byddai pawb yn foddfa o ddagrau gan y dylanwad. Brydiau eraill, gwelid pawb wedi eu sobri a'u difrifoli, gan ryw ddywediadau miniog ac arswydlawn a ddywedai. Ac nid anfynych y gwelwyd y gynulleidfa mewn hwyl gorfoledd, a llawer yn tori allan i orfoleddu. Mae hanes am dano yn gweddio yn hynod iawn un tro mewn ty, neu yn hytrach wrth dy, o'r enw Cefnweit, yn ardal Bryngenan. Yr oedd pregeth i fod yn y lle ar nos Sabboth, ar hir-ddydd haf, gan un o'r enw John Hughes, Bwlchderwin, yr hwn a fu ar ol hyny yn Llanllyfni. Gan fod mwy o bobl wedi ymgasglu nag a gynwysai y ty, penderfynwyd i'r odfa gael ei chynal allan o flaen y ty. Safai Owen Owens ar ben cadair o flaen y ty i ddechreu yr odfa. Cafodd y fath hwyl wrth weddio, fel yr aeth