adegau hyny, byddai yn dechreu yr odfa; a dywedir y byddai yn gweddio yn anghyffredin ar yr adegau hyny. Byddai rhyw effeithiau mawrion yn canlyn ei weddiau yn fynych. Clywsom amryw, sydd erbyn hyn yn y nefoedd, yn son am y gweddiau hyny. Ychydig cyn diwedd ei oes gweddiai yn effeithiol iawn mewn cyfarfod gweddi. "Diolch i ti am y gwaed," meddai, "i dawelu y ddeddf. Yr oedd y ddeddf yn danllyd iawn ar fynydd Sinai, ac yn taranu yn ofnadwy. Ond mi drefnodd yr Arglwydd arch i'w rhoi hi ynddi. Ac yr oedd hi yn bur swat yn yr arch, o dan y drugareddfa. Ac y mae gyno ninau eto arch a thrugareddfa, i dawelu y ddeddf pan y bydd hi yn taranu ac yn rhuo yn ein cydwybodau ni." Yr oedd yn gweddio i ddechreu Seiat y dydd olaf mewn Cyfarfod Misol yn Nhremadog, tua'r flwyddyn 1869. Y noson gyntaf yr oedd y diweddar Barch. David Hughes, Aberdaron, wedi pregethu gydag eneiniad mawr ar "Pa fodd y diangwn ni os esgeuluswn iachawdwriaeth gymaint?" Mawredd yr iachawdwriaeth oedd ei bwnc; a'r diweddar Dr. Hughes ar ei ol ar fyrdra oes dyn, oddiar "Arglwydd, pâr i mi wybod fy niwedd, a pheth yw mesur fy nyddiau; fel y gwypwyf o ba oedran y byddaf fi." Dangosai fyrdra oes dyn yn effeithiol iawn trwy y gymhariaeth ysgrythyrol o "led llaw." Pan yr oedd Owen Owens ar ddibenu gweddio, dywedai yn sydyn, yn ei ddull hynod a chartrefol ei hun, "O ïa wir, bu dest iawn i mi anghofio diolch i ti am y pregethau neithiwr. Diolch i ti am iachawdwriaeth fawr mewn lled llaw." Tarawodd y sylw bawb yn anghyffredin. Yn yr un Cyfarfod Misol ag y cyfeiriwyd ato yn barod yn Llwyndyrus, ac ar yr un weddi, dywedai, "Mae arno ni ofn gofyn i ti am ail ras, rhag ofn na chawso ni mo'r gras cyntaf. Gwna waith mawr yma heddyw gael i'r creaduriaid yma gael rhyw neges i fyn'd adra i ogoniant i ddweyd yr hanes." Nid oes eisiau dweyd mai at yr angylion y cyfeiriai.
Byddai Owen Owens hefyd yn dra chartrefol yn ei weddiau, yn naturiol, ac fel efe ei hunan. Ymddiddanai â Duw fel gyda'i gyfaill: äi i ryw agosrwydd mawr at Dduw yn ei weddiau. Arferai iaith yn ymylu ar hyfdra, efallai. Ond rhaid i ni addef ein bod yn hoffi Owen Owens yn hyn. Yr oedd yn Owen Owens, Cors-y-wlad, hollol, wrth orsedd gras, fel ymhob man arall, heb roddi dim hûg o fath yn y byd am dano. Ac yn wir, rhaid i ni addef hefyd fod arnom hiraeth calon am hen frodyr o'r un stamp ag ef yn hyn. Rhaid i ni addef ein gwendid, mae ein llygaid yn llenwi y funyd hon wrth feddwl am danynt. Gallem enwi amryw