yn perthyn i Frynengan, y Garn, a Brynkir. Dyma hwy yr hen frodyr anwyl, William Griffith, Llystyn-gwyn; William Parry, Nantcall-isa; John Roberts, Ynysdyfnallt; Griffith Roberts, Glan-y-gors; Edward Griffith, Pencae'rsawnog; Ebenezer Jones, (brawd Moses Jones); a Robert Owen, y Pant.
Yr ydym yn ofni fod yr hen gwyn a ddywedir am bregethwyr yn wir hefyd am y gweddiwyr yn y dyddiau hyn, sef eu bod yn rhy debyg i'w gilydd. Ond yr oedd Owen Owens yn hollol ar ei ben ei hun fel gweddiwr, yn gystal ag fel siaradwr. Yr oedd yn gweddio un tro mewn Seiat Cyfarfod Misol, lle nad oedd ond y swyddogion yn unig. "Cofia ni," meddai, "fel swyddogion. Mae o bwys mawr i ni beth bynag fod yn dduwiol. Gwna ni i gyd yn dduwiol, rhag cywilydd i ni." Yr oedd efe a'r diweddar Barch. Griffith Jones, Tregarth, wedi eu gwahodd ryw ychydig o flynyddoedd cyn marwolaeth Owen Owens, i Carmel, Mynydd y Cilgwyn, i gyfarfod oedd yno ar ryw nos Sadwrn, ar ol tea party yn y prydnawn. Areithiai Griffith Jones ar ddirwest, ac Owen Owens ar yr Ysgol Sabbothol. Yr oedd Griffith Jones yn pregethu yno y Sul dilynol, yn y prydnawn a'r nos, a rhoddwyd Owen Owens i ddechreu yr odfa yn y prydnawn. "Yr oedd yn gweddio yn afaelgar, doniol, ac effeithiol, gweddi y buasai yn werth myned ddegau o filldiroedd i'w chlywed. Ac y mae yn amheus genyf a oedd yn y capel lygad sych wrth ei gwrando. Yr oedd ei erfyniadau yn disgyn fel tân ar y gynulleidfa. Ond ar ol y weddi afaelgar a gwresog, pregeth pur ganolig a gawsom gan Griffith Jones ar 'Cofiwch wraig Lot." Gofynai Griffith Jones iddo ddechreu yr odfa drachefn y nos, ond gwrthodai er arfer pob taerineb arno. Ar ol myned i'r capel, eisteddai Griffith Jones yn y pulpud yn hir, gan ddisgwyl i Owen Owens ddechreu. Ond wrth weled na wnai heb ei gymell drachefn, cododd, ac estynodd ei ben dros y pulpud, ac anerchodd ei gyfaill yn debyg i hyn,—"Tyr'd, Owen, dechreu yr odfa, neu ni phregetha i yr un gair heno. Paid a bod yn stupid. Gafael ynddi hi ar unwaith." Ac felly dechreu fu raid. "Ac os oedd wedi cael hwyl dda ddau o'r gloch, yr oedd yn tra rhagori y nos." Cyfarchodd orsedd gras yn debyg i hyn: "Cofia dy was heno, O Arglwydd. Yr wyt wedi ei arddel o lawer gwaith, ond cofia ef y tro yma, Arglwydd mawr. Dyro iddo bethau newydd a hen i'w traethu i ni. Y mae yr efengyl yn llawn o'r naill a'r llall. Yr oedda ni yn y prydnawn yn clywed y bregeth yn rhy hen. Dyro iddo bethau newydd heno. Yr oedda ni wedi hen flino arno yn son am yr hen ddynes gâs