hono o hyd. Cyfarwydda ei feddwl, Arglwydd, i ddweyd rhywbeth wrtho ni am Iesu Grist fel Gwaredwr i bechadur colledig, ac am drefn cadw enaid. Arwain ei feddwl o i Galfaria. Dyro i ni gael awel o Galfaria fryn yma heno."
Credwn hefyd fod Owen Owens yn gwybod am y dirgelwch sydd rhwng ysbryd y dyn duwiol a'r Duw mawr. Mae y fath beth yn bod, feallai, ag i ddyn gael hwyl anghyffredin wrth weddio yn y cyhoedd, a'r dyn hwnw, er hyny, heb wybod am gymundeb rhwng ei enaid ei hun a Duw. Mae y gwir weddiwr yn myned i mewn i gyfrinach y nefoedd. Dywedai Duw am Abraham, "A gelaf fi rhag Abraham yr hyn a wnaf?" "Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf" ydyw y gwir weddiwr. Credwn y gwyddai Owen Owens am rywbeth tebyg. Dywedai am eneth fach iddo pan yr oedd hi yn wael, ei fod yn methu gweddio drosti; a chymerai hyny yn awgrym fod yr Arglwydd am ei chymeryd ato ei hun. Bu nai iddo ag oedd yn gyfaill mawr iddo yn wael iawn, ac yn agos i angeu. Byddai yn myned i edrych am dano bob dydd, er fod ganddo dros dair milldir o ffordd, ac er ei fod ymhell dros ddeg a thriugain oed, a byddai yno mor foreu a rhwng chwech a saith. Un boreu daeth yno, a dywedodd yn galonog iawn, "Wel, yr wyt ti'n well heddyw on'd wyt ti?" "Ydw' wir, 'dwy'n meddwl," meddai yntau. "Wyt, right siwr," meddai Owen Owens, "yr oeddwn i yn medru gweddio drosta ti neithiwr; yr o'n i yn cael ryw nerth a goleuni i weddio drosta ti."
Os byddai Owen Owens yn ledio penill neillduol, byddai pobl Bwlchderwin yn cymeryd hyny yn awgrym fod ei ysbryd mewn hwyl dda i weddio. Os byddai yn ledio y penill canlynol cyn myned i weddi, byddent yn disgwyl am wledd:
"Yn rawnwin ar y groes,
Fe droes y drain;
Caed balm o archoll ddofn
Y bicell fain:
Dechreuwn fawl cyn hir
Na flinir ar ei flas,
Am Iesu'r aberth hedd—
O! ryfedd ras."
Wedi myned hwyl, byddai ei law dde ar ei ochr, neu yn mhoced ei wasgod; ac yn curo y pulpud bach a'i law chwith.
Mae yn dda genym allu rhoddi yma gynwys un o'i weddiau, wedi ei hysgrifenu ar yr adeg gan y Parch. William Jones, Port Dinorwig. Ychydig flynyddoedd cyn ei farwolaeth yr oedd yn dechreu yr odfa, am ddau o'r gloch, mewn Cyfarfod Misol