Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Nghapel Ucha, Clynog. Yr oedd yn nechreu haf, ac yn ddiwrnod pur boeth. Dywed Mr. Jones mai y Parchn. Thomas Roberts, Jerusalem, ac Edward Price, Bangor (Birmingham gynt), oedd yn pregethu; ond dywed y Parch. Francis Jones mai efe oedd un o'r ddau oedd yn pregethu. Nid oedd Mr. Jones wedi ei weled na'i glywed erioed o'r blaen; a dyma yr unig dro iddo ei gyfarfod yn ystod ei fywyd, ac yr oedd wedi ei daro yn fawr gan ei ddoniau dieithr. Er mwyn deall y weddi yn well, y mae Mr. Jones yn rhoddi yr eglurhad canlynol ar yr amgylchiadau:—" Yr oedd cyfarfod eglwysig wedi bod am 8:30, pryd yr oedd nifer mawr o'r aelodau heb fod ynddo. Yr oedd hefyd yn adeg boeth iawn,—y gwres yn annioddefol ymron, a golwg grinllyd ar y ddaear; ei thyfiant wedi sefyll, a'r diwrnod yma yn hynod o boeth, ac heb yr un awel o wynt o un man. Bydd sylwi ar y pethau hyn yn fantais i gael syniad am y weddi fer. Yr oedd ei heffeithiau a'i dylanwad yn fawr ar y gynulleidfa. Nid oedd yno nemawr wyneb sych; a chredu yr wyf fod ei dylanwad yn fawr yn y nefoedd. Aeth yno, fel y dywedir, ar ei union. Ar ol iddo derfynu, ysgrifenais y weddi fel yr oeddwn yn cofio ar y pryd." Cymerodd hyn le, meddai Mr. Jones, Mai yr 8fed 1877, sef y flwyddyn, felly, y bu Owen Owens farw. Ond dyma y weddi, fel yr ysgrifenwyd hi gan Mr. Jones:

"O Arglwydd mawr, yr ydym yn dyfod atat rhag ein blaen, yn ddiymdroi, trwy Galfaria. Yr ydym yn cael ein gwynt yno; lle y collodd yr Iesu ei wynt, yno yr ydym ni yn ei gael. Mae awel hyfryd yn nghymydogaeth y groes, ar y diwrnod poeth yma—'Awel o Galfaria fryn.' Diolch i ti am fod mor dda wrthym yn odfa'r bore, ac am y Seiat dda. Nid oeddym wedi disgwyl llawer; maddeu i ni am hyny. A chofia am yr aelodau cloff yma, y rhai oedd yn absenol pan ddaeth yr Iesu, fel Thomas hwnw. Dyma nhw, mae yn gywilydd iddynt. Bydded iddynt gael rhywbeth yn y Cyfarfod Misol na chollant yr un Seiat eto. Dyro dywalltiad o'r Ysbryd yn odfa'r prydnawn yma, wnaiff rwyg yn nheyrnas Satan, na ddaw hi at ei gilydd byth. Cofia'r gwrandawyr yma, y rhai agos; ond y lle gwaetha, meddai Daniel Jones, ydyw o dan y bargod. Cofia ni yn yr hin; mae y môr mawr yma ar gledr dy law di; gelli ei daflu i'r man y mynot ti. Tafl dipyn o hono ar ein daear sych y dyddiau hyn. Y maent wedi gofyn i mi fod yn fyr. A gwyddost dithau am bob peth sydd arnom eisiau. Gadawn y ddau bregethwr yn dy law; trwy Iesu Grist. Amen."