Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD XVI.
SYLWADAU, DYWEDIADAU, A FFRAETHEBION.

Yn y Cyfarfod Misol.—Ystori y parrot.—Yn y Sasiwn.—Yn y Cyfarfod Llenyddol.—Yn y Cyfarfod Dirwest.—Yn y Seiat.—Yn y Cyfarfod Ysgolion a'r Ysgol Sabbothol.—Mewn angladdau.Gyda'i gymydogion.—Mewn manau ac ar achlysuron amrywiol.

EFALLAI nas gellir cael dim yn well i osod allan Owen Owens, na'i eiriau ef ei hunan; oblegid fel siaradwr yr oedd ei ragoriaeth penaf. Anaml hefyd y gwelwyd neb a mwy o'r dyn yn dyfod i'r golwg yn ei eiriau. Felly, os mynir cael golwg arno mor agos ag y gellir i fel yr oedd, edrycher i'r benod hon. Yr oedd ei sylwadau hefyd yn ffrwyth ei sylwadaeth ef ei hunan; ni bu neb erioed yn fwy felly. Rhaid addef mai ychydig a ddarllenai. Nid oedd fawr o dduwinydd nac esboniwr. Yr oedd ei lyfrgell yn gynwysedig ymron yn gwbl mewn rhyw bump o lyfrau, heblaw ychydig o lyfrau bychain—yr Hyfforddwr, y Geiriadur, Gurnal, Beibl Peter Williams, a Boston ar bedwar cyflwr dyn. A darllenai y rhai hyn, nid er mwyn mwynhad yn gymaint, ond fel y byddai galwad am danynt, yn y Seiat, yn y dosbarth, neu i holwyddori. Ond yr oedd yn feistr hollol yn y llyfrau hyn, yn enwedig yr Hyfforddwr a Gurnal. Dywedir ei fod yn medru y ddau ymron i gyd ar dafodleferydd. Edrychai ar ddweyd rhywbeth yn isel am Gurnal, ymron yr un peth a dweyd peth yn isel am y Beibl. Dywedai un wrtho unwaith, nad oedd ganddo fawr o feddwl o Gurnal; ei fod yn ei weled yn gwneyd y diafol yn rhy debyg i'r Hollalluog. Edrychai Owen Owens arno yn sobr, ac heb ddweyd dim; fel pe buasai yn rhyfeddu at ei ryfyg. Edrychai ar y dywediad ymron yr un peth a phe dywedasid "geiriau cablaidd " am y Beibl ei hunan. Nid oedd yn rhagori nemawr fel athraw; a deallai yntau hyny yn dda. Ni bu yn athraw ymron ar hyd ei oes, ond ar ddosbarthiadau o ferched, a bechgyn lled ieuainc. Hefyd, os deuai rhyw gwestiwn duwinyddol dan sylw, os na theflid ef heibio yn bur fuan, byddai y peiriant mewn dyryswch yn union, a byddai y peirianydd mewn perygl o dderbyn niwed. Gallesid meddwl mai John Jones, Tremadog, oedd ei gynllun fel holwyddorwr. Ni byddai eisiau llafurio nemawr ar gyfer John Jones. Cael y bobl i hwyl, ac i deimlo yr hyn a fyddai dan sylw oedd ei amcan ef. Fe allesid ei ateb gydag "Ië" a