Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Nage" yn feunyddiol. Ac felly yr oedd Owen Owens. Yr un pryd, yr oedd y naill a'r llall yn deall eu hoes yn dda, ac yn gymwys hollol i'w hoes. Nid oedd gan Owen Owens, ychwaith, nemawr o gydymdeimlad â'r bobl fydd yn darllen llawer. Yr oedd saer yn ei ardal, yr hwn oedd yn gryn ddarllenwr. Ar ryw adeg, yr oedd yn gwneyd aradr i Owen Owens. Aethai yno amryw weithiau i chwilio am yr aradr, a dim tebyg iddo fod yn barod; ac yn lle bod yn gwneyd yr aradr, byddai y saer yn darllen rhyw lyfr. Yr oedd Owen Owens wedi ei daflu gryn dipyn oddiar ei echel, fel y dywedir. A chyfarchodd ef un diwrnod mewn tymer lled uchel:—"Ni waeth i ti beidio na darllen, a bod a dy drwyn mewn llyfr o hyd; ni chei di byth D.D. Ond hwyrach y cei di, ran hyny,—D—— diog." Ond dweyd yr oeddym nad oedd Owen Owens nemawr o ddarllenwr, ac mai ffrwyth ei sylwadaeth oedd ei areithiau, ei ddywediadau, &c. Arogl maes fyddai arnynt, ac nid arogl llyfrau. Ac er mwyn rhyw fath o drefn, fe roddwn engreifftiau o hono yn siarad mewn gwahanol fanau, ac ar wahanol achlysuron. Ac fe ddechreuwn gyda'r

CYFARFOD MISOL.

Bu Owen Owens yn ffyddlon iawn i ddilyn y Cyfarfodydd Misol am tua haner can' mlynedd. Pan fyddai amser y Cyfarfod Misol yn nesau, gofynai i'w gyd-flaenoriaid a oeddynt am fyned iddo. Yn dra mynych, nis gallent hwy fyned, a gwyddent hefyd y gwnai efe fwy o ddaioni yno, ac anogent ef i fyned. "Wel," meddai yntau, "mi ro' i gyfrwy ar gefn Demby, ac mi af ynta." Bu ganddo gaseg dda am lawer o flynyddoedd o'r enw hwn. Ond ei brofiad yn fynych fyddai fod anhawsderau lawer ar y ffordd Clywsom ef yn cwyno wrth hen frawd arall y byddai yn dymuno yn fawr cael myned i'r Cyfarfod Misol. "Ond," meddai, "pan yr ä i i hwylio i gychwyn, fe ddaw rhywun dieithr i'r tŷ. Ac wedi iddo fyned allan, ac i mi fyned i chwilio am y gaseg i'r cae, bydd hono wedi myn'd i'r gors. Ac erbyn myn'd yno wed'yn, bydd wedi myn'd i gysgod rhyw glawdd neu wrych, yn ddigon pell. Ac erbyn ei dal, bydd y cythraul wedi tynu ei phedol." Ond er yr holl anhawsderau, äi Owen Owens yno yn fynych am amser maith. A chan fod Bwlchderwin ar y terfyn rhwng Eifionydd ac Arfon, mynych yr äi i Gyfarfod Misol Arfon, os byddai yn agos, yn gystal ag i Gyfarfod Misol Lleyn ac Eifionydd. A byddai yn dda gan bawb ei weled yn dyfod iddynt, yn y naill ran a'r llall o'r Sir, ac