ymdaenai rhyw wên hapus dros wyneb pawb pan ddelai iddynt. Ac fel y dywedai un hen frawd parchus,—"Pan godai i ddweyd rhywbeth, y byddai fel trydan yn rhedeg trwy y cynulliad " Dywed yr un gwr, hefyd, ei fod mewn Cyfarfod Misol yn Cwmcoryn,—"Yr oedd Dirwest dan sylw. A gofynodd y llywydd iddo, 'A oes arnoch ch'i flys dweyd gair, Owen Owens?' 'Dim harm Mr. Hughes,' meddai yntau, a neidiodd i fyny yn sydyn, a chaed ganddo anerchiad yn llawn o wres a thra doniol, ond nid wyf yn cofio dim a fedra i adrodd; ond cododd y cyfarfod i hwyl anghyffredin mewn ychydig funydau."
Yr oedd mewn Cyfarfod Misol ryw flwyddyn neu ddwy cyn ei farwolaeth yn mynydd neu bentref Llanllyfni, pan y gofynwyd iddo roddi gair o gyngor i wyth o bregethwyr ieuainc oedd yn cael eu derbyn yn aelodau o'r Cyfarfod Misol. A chyfarchodd hwy yn debyg i hyn:—"Peidiwch a dynwared neb. Cymerwch eich dull eich hun, a dywedwch eich pethau eich hunain. Meddyliwch am gael eich pregethau eich hunain. Byddant yn fwy effeithiol o lawer na phregethau neb arall, er i'r rhai hyny fod yn well pregethau. Yr o'n i mewn Cyfarfod Misol er's tipyn yn ol, yn cysgu mewn rhyw dy. Rywbryd yn bur foreu fe glywn lais yn gwaeddi, 'Mari, cywad,' 'Mari, cywad.' Ond nid oedd dim arwydd fod neb yn codi. Gwaeddai lawer gwaith, ond nid oedd dim tebyg fod Mari yn codi. Cyn hir fe glywn ryw lais arall, cras, yn gwaeddi, 'Mari, cywad. Mae hi'n amser codi, mae hi'n dechre g'leuo.' Ac yn y fan fe glywn dwrw yn y llofft; ac yn fuan clywn dwrw myn'd i lawr y grisiau, a thwrw yr arfau tân, a swn y llestri tê. Erbyn deall, parrot oedd yn gwaeddi y tro cyntaf, a'r meistr yr ail dro. Ac nid oedd Mari yn hidio dim yn nhwrw y parrot; ond pan waeddodd y meistr, mewn teimlad o angen, dyma hi yn codi ar unwaith. Peidiwch ch'itha' a bod yn rhyw parrots o bethau; 'does fawr o debyg y codith Mari felly. Ni chewch ch'i fawr o effaith wrth fod felly."
Mewn Cyfarfod Misol yn Bwlan, tua 1860-1862, yr oedd "rhwymedigaethau gweision a morwynion i'w meistriaid" dan sylw. A galwyd ar Owen Owens i siarad, pan y dywedodd eiriau tebyg i hyn:—"Yr yda ch'i'n siarad yn dda ar yr ochr yna, ond y mae ochr arall arni hi. Yda ni yn gwneyd ein dyledswydd aty nhw? Yda ni yn ceisio ganddynt weithio trwy deg? Os byddwn ni yn gâs wrthy nhw, ni wna nhw ddim ini. Ond os byddwn ni yn ffeind wrthy nhw, fe wnant bob peth yn union. Dywedwn eiriau siriol wrth y gwas,—'John, dos i'r ffridd i edrych y defaid.' 'Geweh ch'i wel'd y daw o yn ei ol yn union