Ac wedi iddo dd'od yn ol dywedwn, 'A ddoist ti yn dy ol rwan?' A dywedwn wrth y forwyn, 'Mari, dos i chwilio am gawellaid o fawn.' Fe red Mari yn y fan ond i ni fod yn siriol hefo hi. Mi glywis i am ryw wr bonheddig unwaith yn myn'd i'r cae at ei weision, ac yn eu cyfarch nhw, 'Yr Arglwydd a fyddo gyda chwi.' Ac y maent hwythau yn ei ateb yntau yn ol, 'Yr Arglwydd a'th fendithio.' Pe bae nina' yn debycach i'r gwr bonheddig hwnw, yn parchu ein gweision, ac yn fwy caredig wrth ein morwynion, fe fyddai yn haws eu trin o'r haner." Boaz oedd y gwr bonheddig hwnw, mae yn amlwg.
Yr oedd Cyfarfod Misol yn Llanllyfni yn bur ddiweddar ar fywyd Owen Owens. "Y pwysigrwydd o gael teimladau crefyddol, yn gystal a deall clir, a gwybodaeth helaeth," oedd y mater dan sylw. Sylwai y siaradwr blaenorol, y Parch. Griffith Hughes, fod "gwybodaeth yn ymchwyddo," ac yn gwneyd dynion yn hunanol, a chwyddedig, a gwyntog. Galwyd ar Owen Owens i siarad ar ei ol. Ac yn debyg i hyn y cyfarchodd y cyfarfod:—"Yr ydw i yn cofio er's talwm y byddai afiechyd a elwid rickets ar blant. Byddai eu penau yn fawrion, a rhyw chwydd mawr yn eu boliau, ond eu coesau yn feinion. Yr wyf yn cofio fod un o fy mrodyr felly, pan yr oeddym yn blant. Ac yr oedd pob Doctor yn methu gwneyd dim iddo fo. Ond fe gafodd fy mam gyngor i fyn'd a fo i ffynon Criccieth, ac fe aeth a fo yno. Ac wedi bod yno am dipyn yn yfed y dw'r, fe ddarfyddodd y chwydd oedd yn ei fol o. Fe well'odd yn fuan, a daeth yn hogyn brafia fu 'rioed. Fe aeth ei fol o i'w gefn o i gyd, ac fe aeth yn hogyn cryf, iachus, mor gryf a'r un o hono ni. Os oes yma rai o hono nina' a rhyw chwydd annaturiol yno' ni, awn at ffynon goch Calfaria, dyma'r lle i gael ymwared ag o."
Yr oedd "cynydd crefyddol" o dan sylw mewn Cyfarfod Misol yn Nghriccieth Galwyd ar Owen Owens i siarad. Ac meddai,"Pan yr o'n i yn yr ysgol yn blentyn, yr ydw i yn cofio yn dda 'mod i wedi bod yn yr ysgol am flynyddoedd, ac yn meddwl nad oedawn i wedi dysgu dim. Yr oeddwn yn gweled fy llawysgrif yn gam ac yn flêr. Ond rywbryd fe darewais ar y copi cyntaf oedd genyf yn ysgrifenu arno yn yr ysgol. Ac erbyn cymharu fy llawysgrif â'r copi, gwelwn fy mod wedi dysgu llawer. Er fod fy llawysgrif yn lled gam, yr oedd yn unionach o lawer nag yr oedd yn y dechreu. Felly fe fydda i yn meddwl yn amal mai yn yr un man yr ydw' i hefo chrefydd o hyd, a bod fy llwybr i yn gam iawn, ac nad ydw' i yn cynyddu dim; ond wrth