Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/138

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn siarad yn od o gall?' 'Hyn a wnaf: mi a dynaf i lawr fy ysguboriau, ac a adeiladaf rai mwy?' 'Glywsoch ch'i ddim dyn callach erioed?' 'Ac yno y casglaf fy holl ffrwythau a'm da.' Doedd dim posib' gwneyd yn well. Ond yn y diwedd y dar'u o ei methu hi: dweyd wrth ei enaid, 'Fy enaid, y mae genyt dda lawer, wedi eu rhoi i gadw dros lawer o flynyddoedd." Erbyn iddo fyn'd i farw, 'doedd gyno fo ddim ar gyfer hyny. Yr oedd ei holl dda yn hollol ddiwerth erbyn hyny. Wnai o ddim byd a nhw erbyn myn'd i farw. 'O, ynfyd, y nos hon y gofynant dy enaid oddiwrthyt; ac eiddo pwy fydd y pethau a barotoaist?' Doedda nhw dda i ddim iddo erbyn hyny. Erbyn y boreu, 'r oedd o wedi spriana'r cwbl." Yr oedd effaith neillduol yn canlyn y dywediad diweddaf, yn ei ddull pert ef o'i ddweyd. Yr oedd rhai yn wylo, rhai yn chwerthin, ac eraill yn wylo ac yn chwerthin ar unwaith. Wrth spriana y meddylir gwaith yr anifail yn gadael ei ymborth yn weddill (spare) ar ei ol. Ac ar ol gwneyd hyny, nis gall gyffwrdd âg ef, wedi hyny. Bydd yn hollol ffiaidd a gwrthodedig ganddo. Ymborth wedi ei spriana sydd ymborth hollol wrthodedig, er ei fod yr un yn gwbl a'r ymborth oedd yr anifail wedi ei fwyta yn flaenorol.

Mewn Cyfarfod Misol yn Horeb, ger Tremadog, tua'r flwyddyn 1846, yr oedd esgeuluso moddion gras dan sylw. "Fe fydd rhai pobl," meddai Owen Owens, "eisiau pobi neu olchi bob amser pan fydd moddion gras yn y capel. Ac am wn i," meddai, "pe byddai heb Seiat neu gyfarfod gweddi yn y capel, na bydda nhw heb olchi na phobi byth."

Dywedid mewn rhyw Gyfarfod Misol fod eisiau bod yn fwy hallt yn erbyn pechod. "Mae eisiau gofal mawr wrth roi halen," meddai Owen Owens. "Yr oedd y lodes forwyn acw, ryw noswaith, yn rhoddi halen yn yr uwd, ac wrth godi y cauad, fe aeth lwmp o huddug i fewn, ac mi ddifethodd y cwbl. Gwyliwn nina wrth roddi halen yn y pregethau ac yn y cynghorion i huddug fyn'd i mewn, a difetha'r cwbl. Mae arna' i ofn fod yma dipyn o huddug wedi dyfod i mewn i'r ymddiddan heddyw."

Mewn Cyfarfod Misol yn Llanllyfni, yr oedd y diweddar Barch. Robert Ellis yn llywydd, a galwai ar Owen Owens, gan ddweyd, "'Ryda ni yn disgwyl i ch'i ddwad yma i ddechreu Owen Owens." "Pwy sy'n dweyd?" meddai Owen Owens. "Y fi sy'n dweyd," meddai Robert Ellis, yn bur chwyrn. wel," meddai yntau; ac yna fe aeth ymlaen i ddechreu.

Fel y mae yn hysbys, yr oedd cryn lawer o'r wag, fel y