dywedir, yn Owen Owens, a deuai hyn i'r golwg weithiau hyd yn nod mewn Cyfarfod Misol, ac mewn cysylltiad â'r Cyfarfod Misol. Eisteddai un tro wrth ochr hen flaenor diniwed ac anwybodus, pan y dygid i sylw ac y canmolid "Holwyddoreg Ysgrythyrol" y diweddar Barch. John Hughes, Lerpwl. "Beth ydy y 'Rereg' yma y mae nhw yn son am dano fo?" meddai yr hen flaenor." "Berfa olwyn Fethodistaidd," meddai Owen Owens. "Beth mae hi da?" "Gwneyd pont Fethodistaidd mae nhw," meddai Owen Owens. Yr oedd y diweddar Barch. John Owen, Tynllwyn, wedi dyfod a rhyw gynllun lled chwyldroadol o flaen y Cyfarfod Misol rywbryd, pan yr oedd John Jones, Tremadog, yn llywydd. Ystyriai John Jones fod y cynygiad yn an-Fethodistaidd, ac yn ymylu ar fod yn bechadurus. Gofynai iddo a oedd yn edifarhau am yr hyn oedd wedi ei wneyd? Safai Mr. Owen ar ei draed yn fud, a golwg wylaidd a Methodistaidd arno, gyda'i ben braidd yn gam, gan dosturio, mae yn debyg, at gulni a bychandra John Jones. Cododd Owen Owens yn sydyn ar y funyd, a dywedodd, "Mae o 'n edrych yn edifeiriol iawn, beth bynag." Nid oes eisiau dweyd fod Owen Owens yn cydymdeimlo â John Owen, gan fod y ddau yn gyfeillion mawrion, ac yn meddwl yn uchel o'u gilydd, er mor annhebyg oedd y naill i'r llall; a chwarddwyd y peth i ffordd ar unwaith. Yr oedd mewn Cyfarfod Misol yn Arfon, pan yr oedd y diweddar Mr. Thomas Lewis, A.S., Bangor, ynghyd a dau eraill o'r un man, yn cael eu derbyn yn aelodau o'r Cyfarfod Misol. Yr oedd un o'r tri yn un o Eifionydd; a gwyddai Owen Owens nad oedd ganddo nemawr o wybodaeth dduwinyddol. Gofynai rhywun i Owen Owens ar ol iddo ddyfod adref, sut y daeth hwnw trwyddi hi. "O, wel," meddai yntau, "fe griodd o dipyn, ac fe wnaeth hyny y tro yn llawn cystal iddo fo."
Yr oedd y diweddar Barch. John Griffith, Bethesda, yn pregethu yn hynod mewn Cyfarfod Misol un tro, gan ddweyd pethau newydd a beiddgar iawn. A dywedodd Owen Owens ar y diwedd, "Wel, chlyw'is i ffasiwn fentro 'rioed."
Ar ol bod yn gynrychiolydd yn y Sasiwn, ac wrth osod yr adroddiad o flaen y Cyfarfod Misol, dywedai,—" Yr o'n i wedi meddwl am ddwad a'r petha adra'n gynes, ond mae nhw wedi oeri llawer ar y ffordd."
Nid oedd neb yn mwynhau Owen Owens yn fwy na'r diweddar Barch. David Jones, Treborth; a byddai raid iddo siarad bob amser pan fyddai efe yn llywydd y Cyfarfod