Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dim mwy gan yr Arglwydd ei drin o mwy na chyw brân. Felly y byddai yr hen bobl yn gwneyd yn amser rhyfel Bonaparte. Yr oedd pawb wedi myn'd i feddwl y d'oi o drosodd i'r wlad yma. Ond fe aeth y wlad i weddio, ac fe'i cadwyd o draw. Byddent yn cynal cyfarfod gweddi bob boreu dydd Mercher, am naw o'r gloch; a byddai y pladurwyr yn amser y cynhauaf yn gadael eu pladuriau yn y meusydd, ac yn myn'd i'r capel i'r cyfarfod gweddi, ac yn gweddio nes y byddai eu chwys yn diferu; a chadwyd Boni o'r wlad. Mi greda' i pe cai ni gyfarfod gweddi y triniai yr Arglwydd yr hen Dyrciaid yna hefyd. Treiwn gyfarfod gweddi, gyfeillion, i'w trin nhw. 'Wyddo' ni yn y byd beth wnai cyfarfod gweddi. Os metha gweddi yn hyn, hi a fetha am y tro cyntaf erioed. Beth na all gweddi ei wneyd?" (cym.). Yr oedd 'myn'd' anarferol ar yr araeth hon, a phawb yn mwynhau, yn enwedig Dr. Owen Thomas, cadair yr hwn, meddir, oedd bron a syrthio. Siaradodd amryw weithiau yn y cyfarfodydd eraill hefyd.

Dywed ein hen gyfaill, Robert Owen, Bwlchderwin, fod Owen Owens wedi bod ar "daith" er's tua haner can' mlynedd yn ol gyda'r diweddar Barch. Griffith Hughes, am dair wythnos. Mae yn ddigon tebyg ei fod y pryd hwnw yn myned yn gynrychiolydd i ryw Sasiwn neu Sasiynau. Meddai Robert Owen am yr adeg hono, "Yr oedd fel pe buasai darn helaeth o'r byd yn myn'd i ffwrdd wrth i Owen Owens ein gadael am gyhyd o amser."

YN Y CYFARFOD LLENYDDOL.

Pan ysgrifenir hanes Cymru am y ganrif bresenol, gwelir fod gan y Cyfarfodydd Llenyddol law fawr mewn gwneyd ein gwlad yr hyn ydyw yn awr. Credwn fod y rhan fwyaf o brif ddynion y genedl ar hyn o bryd, wedi cychwyn eu gyrfa gyda'r cyfarfodydd hyn, hyny ydyw, y rhai sydd dros bump a deugain oed. Mae y Cyfarfodydd Llenyddol yn awr yn bethau hollol wahanol i'r hyn oeddynt er's deugain mlynedd yn ol. Y pryd hwnw, nid oedd gan fachgen neu ddyn ieuanc braidd un man arall i ddangos neu brofi ei dalent, ond ynddynt hwy. Ac nid oedd y cyfarfodydd hyn mewn mwy o fri yn un man nag yn Eifionydd. Dechreuwyd eu cynal yn y rhan hon o'r wlad tua'r flwyddyn 1853. Ac yr oedd rhai o brif ddynion y genedl yn dal cysylltiad a hwy, ac wrth law i'w cario ymlaen, megis y Parchn. William Ambrose (Emrys); John Owen, Tynllwyn (Gwindy y pryd hwnw); Eben Fardd; I. D. Ffraid, ynghyd ag eraill oedd heb fod yn llawn mor enwog, megis Ellis Owen, Cefn-y-meusydd;