Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/153

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wylifan, Criccieth, rywbryd. Dywedai bethau digrifol a doniol anarferol, cyn dechreu canu ei ganeuon; ac yr oedd canoedd wedi ymgasglu o'i ddeutu. Cyfeiriai at ryw adeg, "Pan yr oeddwn i yn darw 'Stumllyn 'stalwm," meddai, gan daro bagl ei ffon ar ochr ei ben, i ddynwared y creadur hwnw. Digwyddai Owen Owens fyned heibio ar y pryd, a gwelai efe yr Ysgol Sabbothol hyd yn nod drwy yr ynfydrwydd hwn. "Hwn," meddai, "fuasai yn gwneyd un iawn i hel plant i'r Ysgol Sul."

Dywedai yn Sasiwn y Wyddgrug ei fod yn aelod o'r Ysgol Sabbothol er's un mlynedd ar ddeg a thri ugain. Yr oedd felly yn aelod o honi, er pan yr oedd yn bum' mlwydd oed. A dilynodd hi hyd o fewn ychydig wythnosau i'w farwolaeth. Dywedai hefyd mewn Cyfarfod Ysgol yn bur agos i'w ddiwedd, ei fod wedi ei dilyn heb gael yr un fit ar hyd ei oes.

Byddai ffraethineb Owen Owens yn dyfod i'r golwg yn fynych wrth holi ar ddiwedd yr ysgol, ac wrth gynghori ar yr adeg hono. Yr oedd geneth ieuanc yn adrodd yr unfed benod ar ddeg o'r Epistol at yr Hebreaid un tro yn Mwlchderwin. Adroddai yn rhagorol. Daeth at y gair hwnw yn agos i'w diwedd, "A pheth mwy a ddywedaf?" "Wel, wir," meddai Owen Owens, "yr wyt ti wedi dweyd pethau go fawr hefyd." Dro arall dywedai,—" Os bydd rhyw hogyn yn 'cau dwad i'r Ysgol Sul, fe fuaswn i yn eich cynghori ch'i i gloi pob peth rhag hwnw." Yr oedd yn holi ysgol y Gwindy rywbryd. Gofynai i'r plant a oedd y Beibl yn gorchymyn curo plant. Atebai un hogyn bychan, gan berlio yn myw ei lygaid, nad-oedd. "'Rwyt ti am gadw dy groen yn iach, on'd wyt ti?" meddai Owen Owens. Yr oedd wedi bod yn holi yr ysgol yn Nghwmcoryn ar un adeg. Ar y diwedd gofynai y diweddar Barch. Robert Hughes, Uwchlaw'rffynon, iddo, a oedd ryw sylw oedd wedi ei wneyd yn ramadegol. "Nid dwad yma i ddysgu gramadeg i ch'i 'roeddwn i Robert," meddai yntau yn y fan. Dro arall dywedai yn Mwlchderwin, "Fe fydda' i yn codi yn foreu ar y Sul fel ryw ddiwrnod arall. A bydd yn hawdd iawn gen i edrych i gyfeiriad Bwlchderwin yma. Byddaf yn gweled y naill gorn ar ol y llall yn mygu. Ac yr ydw' i wedi sylwi mai y rhai ola' yn codi fydd y rhai ola' yn dwad i'r capel bob amser." Yr oedd yn holi yr ysgol un tro mewn Ysgol Sul a gynhelid yn Tyglas, Bwlchderwin. Gofynai beth oedd "rhaglaw." Nid oedd neb yn ateb. O'r diwedd atebodd yr hen gymeriad ffraeth a hynod hwnw, Griffith Evan, Cors-y-wlad,—"Ambarelo; rhag gwlaw y mae hwnw, beth bynag."