Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/155

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heb gymylau yn ei awyrgylch; ond yr oedd hwyr ei ddydd yn nodedig o ddigymylau. Yr oedd haul ei fywyd yn machlud mewn awyrgylch hynod o glir a digwmwl. Un o'r pethau mwyaf pruddaidd ydyw gweled dyn duwiol yn cael hir-ddyddiau ar y ddaear, a'r rhai hyny yn ddibrofedigaeth hyd yn agos i'w ddiwedd, ond yn y diwedd yn cyfarfod a llawer o filinderau. Mae baich blinderau henaint yn drwm iawn i'w ddwyn heb ychwanegu ato faich blinderau y byd. A mynych y gwelir dyn gwir dduwiol felly; ond nid felly yr oedd Owen Owens. Yr oedd ei amgylchiadau bydol ef yn gwella yn ei flynyddoedd olaf, fel yr oedd yn ei ddiwedd yn perchen cryn lawer o dda y byd hwn, ag ystyried ei sefyllfa. Yr oedd ei fywyd teuluaidd yn hynod o hapus a dedwydd. Yr unig beth a dywyllodd ryw gymaint arno oedd marwolaeth geneth fach iddo, fel y cyfeiriwyd. Ond wedi i hyny fyned heibio nid oedd dim chwerwder na cholyn yn aros. Anrhydeddwyd ef, fel y soniwyd o'r blaen, trwy gael ei ddewis yn gynrychiolydd i'r Sasiwn ryw ddwy flynedd cyn ei farwolaeth.

Derbyniodd lawer o barch a sylw hefyd yn ystod y flwyddyn y bu yn gynrychiolydd, sef y flwyddyn cyn y flwyddyn y bu farw. Ond ni bu dim yn fwy o galondid iddo, nac yn foddion i sirioli mwy ar ei feddwl a'i ysbryd yn ei henaint, na gwaith pobl Bwlchderwin yn ei anrhegu a spectol, a hono yn un aur. Mae ei fynych gyfeiriadau at hyn yn dangos ei fod wedi teimlo yn fawr oddiwrth y parch a'r caredigrwydd hwn. Yr oedd ganddo ddosbarth o ferched mewn oedran tua'r adeg hon. Rhoddai y spectol i bob un o honynt, y naill ar ol y llall, i edrych drwyddi ac i ddarllen gyda hi; a dywedir y byddai yn cael boddhad mawr wrth edrych arnynt yn ei gwisgo ac yn ei defnyddio. Wrth anog rhai i ddyfod i'r Ysgol Sabbothol, dywedai,—"Ni fydda i byth yn leicio siarad llawer am danaf fy hun. Ond y mae pobl Bwlchderwin yn dweyd fy mod i wedi bod yn ffyddlon iawn hefo'r Ysgol Sul, ac y maent wedi fy anrhegu i â spectol aur am fy ffyddlondeb iddi. Welwch ch'i, y mae bod yn ffyddlon i'r Ysgol Sul yn dwad ag aur i bobol." Byddai yn erbyn physig a doctor yn anghyffredin. "Pan y bydd rhywbeth arna' i," meddai, "dim ond i Catrin [y wraig] wneyd tipyn o ddw'r camomile, a dangos y spectol aur i mi, mi fendia i yn union." Cynhaliwyd y cyfarfod i'w chyflwyno iddo nos Lun, Ebrill yr 17eg, 1876, sef ymhen y tridiau ac wythnos ar ol Sasiwn Rhuthyn. Llywydd y cyfarfod oedd Hugh Jones, un o flaenoriaid Bwlchderwin ar y pryd, ond sydd