Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/157

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Owens, y Gors. Gwelir hwy fel y maent yno, o dan y darlun ar ddechreu y llyfr hwn. Mae y geiriau canlynol hefyd o dan y darlun, wedi eu hysgrifenu gan law arall:—"Anrheg i aros yn nhŷ capel Bwlchderwin. Medi 18fed, 1876."

Ond dyddiau Owen Owens, fel eraill, a nesasant i farw. Tarawyd ef gan ergyd o'r parlys, ychydig wythnosau cyn iddo farw. Suddodd yn arafaidd, a bu farw, dydd Gwener, Tachwedd 9, 1877, yn ddwy ar bymtheg a thriugain oed, Isel iawn ei feddwl ydoedd yn ystod ei gystudd. Yr oeddym yn pregethu yn Mwlchderwin y Sabboth diweddaf y bu byw; a buom yn ymweled âg ef. Ychydig o eiriau a geid ganddo; a chredwn fod y parlys creulon wedi ysigo ei feddwl a'i ysbryd. Y dydd Mercher canlynol, gwyr bucheddol a ddygasant Owen Owens i'w gladdu. Darllenwyd a gweddiwyd wrth y tŷ gan y Parch. John Jones, Bryn'rodyn. Claddwyd ef yn mynwent Capel Ucha, Clynog. Siaradwyd yn y capel ac wrth y bedd, gan y Parchn. Thomas Ellis, Llanystumdwy; John Owen, M.A., Criccieth; a Robert Jones (B.), Llanllyfni. Fel y cyfeiriwyd o'r blaen, yr oedd Owen Owens a Robert Jones yn gyfeillion mawrion; a dangosodd Robert Jones ei gyfeillgarwch drwy ddyfod i angladd ei hen gyfaill. Dywedai air ynddo hefyd yn ddoniol, ac yn ei ffordd ei hun. "Yr oedd Owen Owens," meddai, yn ddyn mawr. Yr oedd yn rhy fawr i fod yn ddyn plaid. Fe gafodd yntau, fel pob dyn go fawr, lawer o rwystrau ac anhawsderau; ond fe'u gorchfygodd i gyd. Rhaid i bob dyn a rhywbeth ynddo ladd llewod wrth fyn'd trwy y byd yma. Rhaid i ch'itha," meddai, gan godi ei ffon, a'i tharo ar ymyl y sêt, ac edrych yn ffyrnig, "rhaid i ch'itha', ladd llewod os yda ch'i am wneyd rhyw ddaioni yn y byd. Dyn oedd Owen Owens laddodd lewod wrth fyn'd trwy y byd yma." Er's rhai blynyddoedd yn ol, anfonasom at Robert Jones i ofyn a oedd ganddo ychydig o adgofion a fuasai yn ei ysgrifenu am Owen Owens. Cawsom lythyr helaeth yn ol yn fuan. Ymysg pethau eraill, dywed fel hyn:—" Yr oedd Owen Owens yn un o'r dynion hynotaf. Nid oedd efe yr un fath a neb; ac nid oedd neb ond anfynych yr un fath ag yntau. Yr oedd ei bethau goreu, mae yn ddiau, yn bethau ardderchog; y mae pethau gwaelaf y dynion goreu a a fuont yn y byd erioed yn bethau tra annheilwng. Ceir rhai pethau dymunol, weithiau, mewn dyn tra annuwiol, tra y mae y dyn goreu yn ei funydau gwaethaf, yn colli cryn lawer mewn gair a gweithred."

Fel hyn, y mae y diweddar Barch. Roger Edwards yn ysgrifenu