Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cynal y cyfarfod gweddi yn niwedd y mis blaenorol, sef Medi 23. Yr un fath, yr oedd yn amser o gyfyngder mawr ar hyd yr holl amser o tua 1790 hyd y flwyddyn 1815, o achos y rhyfel parhaus a Ffrainc. Cynhelid cyfarfod gweddi bob boreu dydd Mercher y pryd hwn, am lawer o flynyddoedd yn holl gapelau y Methodistiaid, i ofyn i'r Arglwydd fod yn amddiffyn i'n teyrnas, ac i ofyn am lwyddiant ar yr efengyl yn ein gwlad. Mae hanes am un o'r cyfarfodydd gweddi hyn yn Mrynengan, pan y disgynodd rhyw ddylanwadau rhyfedd ar bawb yn y lle. Yr oedd un hen frawd wedi colli cymaint arno ei hun fel yr oedd yn neidio yn nghowrt y capel, ac ar y ffordd wrth fyned tuag adref. Collodd ei glocsiau ar y ffordd ac aeth bellder mawr hebddynt, heb feddwl nad oeddynt am ei draed. "Ni ddaw o ddim yma yn wir bobol," meddai, gan gyfeirio at Napoleon Bonaparte. Yr oedd meddyliau ac ysbrydoedd dynion yn cael eu gwneyd yn dyner drwy yr hirgyfyngder hwn, a chymerodd Ysbryd Duw fantais ar hyn i ddylanwadu ar eu meddyliau. Yr oedd yma dir da i fwrw yr had ynddo. Yr oedd caledi a chyfyngder yr amseroedd yn peri fod yma galonau hawddgar a da, i wrandaw y gair, i'w gadw, ac i ddwyn ffrwyth drwy amynedd.

Yr oedd cychwyniad a dygiad ymlaen yr Ysgol Sabbothol hefyd yn ystod yr adeg yma yn fanteisiol iawn i ddiwygiad crefyddol. Drwy hyn yr oedd y tywyllwch mawr oedd yn meddyliau dynion am bethau yr efengyl yn cael ei wasgaru, a goleuni tanbaid yn dyfod ar y pethau hyn. Gellir cymhwyso yr adnod hono gyda phriodoldeb mawr at yr adeg yma:—"Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr, ac i'r rhai oedd yn eistedd yn mro a chysgod angeu, y cyfododd goleuni iddynt." Ac yn yr adeg yma yn union dyma y nefoedd yn anfon lliaws o bregethwyr digyffelyb i Gymru, pregethwyr na bu mewn un wlad er dyddiau yr apostolion mo'u rhagorach:—Robert Roberts, Clynog; Ebenezer Morris, John Elias, John Jones, Edeyrn; Evan Richardson, Ebenezer a Thomas Richards, John Evans, New Inn; Michael Roberts, William Roberts, Amlwch; William Morris, Cilgerran, &c. Yr oedd y goleuni sydyn oedd newydd wawrio ar feddyliau dynion drwy yr Ysgol Sabbothol, yn peri fod dylanwad rhyfedd yn canlyn gweinidogaeth y gwyr hyn y pryd hwn. Yr oedd rhyw nerthoedd rhyfedd yn cydfyned a'u gweinidogaeth yn yr adeg hon. Yr oedd y wlad ar hyd yr holl amser yma yn llawn o'r tân diwygiadol. Yr oedd holl oes weinidogaethol