Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
PANTGLAS UCHA (Lle y ganwyd ef.)


PENOD II
YR ARDAL Y GANWYD EF, Y TREULIODD EI OES, AC Y BU FARW YNDDI

Pantglas Ucha, lle y ganwyd ef.—Mewn lle neillduedig.—O hynafiaeth mawr.—Darluniad o'r ty a'r cwmpasoedd. Ei berchenogion. Yr olygfa wedi rhoddi argraff arei feddwl.—Hugh Hughes, y Caerau, a'i hynodrwydd.—Dim lle o addoliad yn ei ardal enedigol—Ofergoeledd mawr.—"Martha'r Mynydd." Mr. a Miss Ingram.—Ei thwyll yn cael ei ddinoethi. Cors-y-wlad. Yn lle neillduedig.—Robert Jones, Llanllyfni.—Cywydd Robert ap Gwilym Ddu ar yr afon Ddwyfach.

Roedd y lle hefyd lle y ganwyd Owen Owens ynddo, yn gystal a'r amser y ganwyd ef, yn hynod. Ganwyd ef yn Pantglas Ucha, yn mhen uchaf plwyf Clynog. Saif yr amaethdy hynafol a pharchedig yr olwg, ar fin yr hen ffordd