Pantglas Inn, ac yr oedd y tir gynt yn cyraeddd i ymyl station Pantglas. Dyma y ty, sef Pantglas Ucha, yr agorodd Owen Owens ei lygaid gyntaf ynddo, a dyma yr olygfa y disgynodd ei lygaid gyntaf arni. Myn rhai fod y golygfeydd mae dyn yn eu gweled yn ei febyd a'i ieuenctyd yn gadael eu hol arno tra y bydd byw, ac i raddau helaeth yn ffurfio natur a nodwedd ei feddwl, a braidd na thybiwn fod hyn yn wirionedd am Owen Owens; yr oedd ol yr olygfa oedd o gwmpas Pantglas Ucha arno tra y bu fyw. Er fod llawer o'r digrifol yn ei natur, eto yr oedd llawer o'r pruddglwyfus hefyd ynddo. Yr oedd rhywbeth hefyd yn ei wynebpryd ac yn agwedd ei ysbryd ag oedd yn peri i ddyn feddwl ei fod wedi byw llawer yn mhresenoldeb yr ofnadwy a'r dychrynllyd. Mae yn dda genym allu cyflwyno i'r darllenydd ddarlun o'r amaethdy hynod a hynafol. Tynwyd ef gan orwyr i Evan Owen, brawd Owen Owens, sef Mr. J. R. Owen, Pantglas, Cenin, yr hwn sydd yn flaenor yn nghapel Bwlchderwyn, ac efe hefyd a dynodd y darluniau o Gors-y-wlad a chapel Bwlchderwyn.
Er fod yr ardal oddeutu adeg genedigaeth Owen Owens yn dra amddifad o foddion gras, gan nad oedd na Llan na