Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mwyn yw dod, i'r man y dêl,
Y dŵr iach, o dir uchel.
Yn ddadrwym a thi'n ddidroed,
I ble'r ai?-heb ŵyl erioed;
Byw redwr boreu ydwyt,
Rho osteg awr, ystig wyt;
Trwy'r môr hyd draw'r ymwri,
Os y dòn ni'th erys di.
O! yr afon ddofn, ryfedd,
I mi sy'n dangos fy medd;
O hyd y modd y rhedi,
Y rhed f'amser ofer i;
I foroedd byd anfarwol,
A'u dyli'n wyrth dialw'n ol.
Bid hawddamor, oror iach,
It' Eifion tra rhed Dwyfach;
Achlesa di, yma'n deg,
Y ferth anwyl, Frythoneg;
A nodda'n fwyn y ddawn fau,
Dufewnol yn dy fannu;
Da fo urddas dy feirddion,
Dros hir wedi yr oes hon;
Deled y beirdd fo'n dilyn,
Y dau gwell na'r Du a Gwyn;[1]
Medir İlwydd-mae dy wyr llen,
A thuedd at waith awen;
Wel bellach difyrach fydd
Mae'n llinyn mewn llawenydd.
Y nos sydd wedi neshau.
Er difyred fy oriau;
Tyred awen naturiol,
Arwain fi'n awr yw fy ol;
Da beunydd i'm diboeni;
O enaid fwyn na âd fi:
Beirdd diwael o'th gaffael gynt,
Prydyddion parod oeddynt;
Iawn yw'r swydd yn yr oes hon,
Ddal dydd a'th ddeiliadyddion;
Diau rhag y nos dywell
Dewis waith nad oes ei well:
Da morwyn, tyr'd i'm harwedd,
Enyd fach-o hyu hyd fedd;
Er y dim, na thor dymawr,
Pan nad yw ond penod awr;
Bydd wych bellach, Dwyfach deg,
Filur odiaeth yn ffloyw redeg;
Hyd farn dy ruad a fydd,
Trwy faenor tir Eifionydd;

  1. The two Eifionydd Bards, named R. ab Gwilym Ddu, and Dewi Wyn o Eifion.