Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD IV.
EI FEBYD A'I IEUENCTID.

Yn llawn bywyd, ffraethineb, a direidi o'i febyd.—Ei gyfrwysdra yn gochel cerydd ei dad.—Yn rhoi y lŷr ar y maen llifo.—Yn ateb ei dad yn ei coin ei hun.—Ei ardal enedigol yn amddifad o foddion gras.—Ysgol Bwlchderwin.—Arferion ieuenctid yr ardal—Yn ddi-barch i'r Sabboth.—Yn ddynion mawrion a chryfion.—Eu direidi.—Y bachgen a'r ceiliog.—Ysgol Taiduon yn dechreu.—Yn symud o'r naill dŷ i'r llall.—Y dull o'i chynal.—Cael ei chynal mewn cwt mochyn.—Yn foddion i wneyd daioni mawr er hyny.

DECHREUODD neillduolion cymeriad Owen Owens ddyfod i'r golwg ynddo yn ei fabandod,—pan yn blentyn, ac yn fachgen ieuanc iawn. Yr oedd yn llawn bywyd, direidi, a ffraethiweb er yn blentyn. Byddai yn berwi o ddigrifwch hyd yn nod y pryd hwnw. Yr oedd cyflymdra ei feddwl, hefyd, wedi dadblygu yn foreu iawn, ynghyd a'i graffder a'i gyfrwysdra. Yr oedd wedi gwneyd rhyw ddrwg unwaith, a'i dad yn myned i'w geryddu, a chymhwyso y wïalen ato. Dywedir fod ei dad yn dyfod ato a golwg pur fygythiol a mileinig arno, ac fel pe buasai yn benderfynol o roddi curfa iddo, y cofiai am dani yn hir. Ond syrthiodd Owen ar ei liniau o'i flaen, a gwaeddodd allan,—"Ysbryd aflan, dos allan o'r dyn yma." Torodd ei dad allan i chwerthin ar unwaith, a methodd a gweinyddu y ddisgyblaeth angenrheidiol arno. Mae cyfrwysdra Owen Owens i'w weled yn hyn yn gystal a'i ffraethineb, a chyflymdra ei feddwl. Gwyddai y buasai hyn yn foddion effeithiol i ochelyd y wïalen. Fel pob mam, byddai mam Owen Owens yn cael cryn drafferth i gael gan ei phlant i fwyta yr ymborth a osodid ger eu bron. Traethai gryn lawer ar y pwys iddynt ddysgu bwyta pob peth a osodid o'u blaen, erbyn yr äent i fwyta ar fwrdd pobl eraill. Un diwrnod, ar giniaw, digwyddodd i ddarn o lŷr[1] ddyfod i ran Owen, a dangosai anfoddlonrwydd mawr i'w fwyta; ond dywedai ei fam fod yn rhaid iddo wneyd, cyn y cai ddim yn ychwaneg o ymborth. Yn bur fuan, gwelid Owen yn rhoddi y lŷr ar y maen llifo, ac yn troi cymaint ag y gallai, a gofynai ei fam iddo beth oedd yn ei wneyd. "Rhoi y lŷr yma ar y maen llifo," meddai yntau, 'mae rhyw obaith cael ymwared ag o fel hyn;" gan awgrymu

  1. pwrs (tethau) buwch