Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un pur orchestol, fel y dywedir Nid oedd ei olygon yn dda, yn enwedig ymhell oddiwrtho. A hoff hyfrydwch y bechgyn eraill oedd gwneyd ryw fân gastiau âg ef. Yn y dyddiau hyny holl fryd pobl ieuainc oedd ymryson mewn gwneyd rhyw fath o gampau. A rhagori yn y pethau hyny oedd holl uchelgais pob dyn ieuanc. Yr un modd ieuenctid yr ardal hon, yr oeddent yn llawn o'r un ysbryd. Ac nid oedd neb yn fwy felly na J—— T——. Gan fod y lleill yn llawn direidi rhoddai hyn fantais iddynt arno. Byddai ganddynt ryw gampau yn feunyddiol, yn y rhai y mynai y naill a'r llall ragori. Un camp neillduol oedd yr hyn a elwid ganddynt yn 'enill ei bedolau.' Ac yr oedd gwneyd hyn oddiar le uchel yn orchestwaith anarferol. Yr oedd gwneyd hyn oddiar drawst cwpwl yr ysgubor yn un o'r gorchestion penaf. Yr oedd J—— T——yn llawn awydd am ragori yn y peth hwn. Ai i fyny ar y trawst, tra y byddent hwythau yn ei ganmol, ac yn ei anog i fyned ymlaen. Ond chwareu teg iddynt, byddent yn gofalu am roddi gwellt ar y llawr o dan y lle y byddai y camp yn cael ei wneyd, rhag iddo gael niwed. Ond diwedd yr ymdrechfa bob amser fyddai i J—— gael codwm i'r gwellt; a byddai y lleill y pryd hwnw wedi cyrhaedd eu hamcan, a mawr fyddai y crechwen yn eu plith. Mynych y byddai Owen Owens, ar hyd ei oes, yn tynu gwersi oddiwrth ryw bethau fyddai wedi eu gweled ymysg ei gyfoedion pan yn fachgen ieuanc. I ddangos fel y mae arferion boreu oes yn glynu mewn dyn ar ol tyfu i fyny, dywedai am un o'i gyfoedion oedd yn dra hoff o ffeirio a bargeinio pan yn fachgen, yr hyn oedd wedi glynu ynddo ar hyd ei oes, nes yr oedd wedi myned yn hynafgwr. Yr oedd y llanc hwnw yn dra hoff o ffeirio a newid ceiliogod, ymysg pethau eraill. Ac un boreu daeth i Bantglas-ucha a cheiliog o dan ei gesail. Gwelai Owen Owens yn eistedd ar gyfer y drws. Yr oedd Owen Roger, tad Owen Owens, yn cadw dyledswydd deuluaidd pan y daeth at y drws. Ac heb feddwl beth oedd yn myned ymlaen, aeth y bachgen i mewn i'r tŷ, a thaflodd y ceiliog ar y llawr, gan ddweyd, 'd-d-ddyna i ti Owen beth ydi ceiliog iawn.' Yr oedd tipyn o ataldywedyd ar y bachgen. A chanodd y ceiliog yn y fan, ar ganol y llawr, a hyny pan oedd Owen Roger wrthi yn darllen. Gallem chwanegu rhai pethau eraill o'r un natur a'r uchod, ond efallai fod hyn yn ddigon. Prin hwyrach y mae y pethau uchod yn werth eu hadrodd, ond fel y maent yn dangos