Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

weinidogaeth wedi ateb diben da. Ond y mae y ffaith ei fod wedi bod yn foddion troedigaeth y gwyr hyn yn brawf fod ei weinidogaeth yn un fuddiol, ac felly iddo fod yn foddion troedigaeth i lawer eraill. Ac er i ni fethu gweled yr un gair o'i hanes mewn argraff yn un man, diau ei fod er hyny yn cael ei gyfrif ymysg y rhai hyny,—"A'r doethion a ddisgleiriant fel disgleirdeb y ffurfafen; a'r rhai a droant lawer i gyfiawnder, a fyddant fel ser byth yn dragywydd."

Wedi ysgrifenu yr uchod daethom i wybod mwy am y gwr hwnw, a hyny trwy y Parch. David Williams, Conwy, gwr ag sydd yn meddu ar lawer o adgofion dyddorol am yr hen Fethodistiaid. Fel hyn y mae Mr. Williams yn adrodd ei adgofion am dano:—"Yr wyf yn ei gofio yn dda yn pregethu, ond yn rhy ieuanc i ffurfio barn am dano fel pregethwr. Byddwn yn ei hoffi, a rhaid ei fod yn barchus yn yr eglwys. Yn ol Day Book bychan ddaeth i'm rhan ar ol un o'r cyn-drigolion, byddai yn pregethu ddwy a thair gwaith yn y flwyddyn yn yr hen gapel cyntaf. Gwr tew, graenus ydoedd pan y gwelais ef gyntaf, nailor wrth ei alwedigaeth; a'r ddiod a'i taflodd o'r pulpud. Ar ol gwneyd Moriah yn 1826 y bu hyn; canys clywais ef yno droion. Signiodd ddirwest yn fuan ar ol sefydliad y gymdeithas yn y dref; ar ol hyny aeth i Liverpool i fyw, a daeth yn ol wedi tair blynedd o fyw yno. Daliodd yn dda at ei ymrwymiad, a bu farw yn Gristion gloew, er yn dlawd. Yr wyf yn cofio y tro olaf y bum yn edrych am dano. 'Dafydd bach,' meddai, 'y mae y Graig yma, ond bod llawer o bridd arni.' Yr oedd iddo wyr yn flaenor o'r radd oreu yn Beaumaris. Bu farw tua blwyddyn yn ol, sef Mr. Richard Lloyd Humphreys."

Yr ydym yn deall i John Humphreys fod yn pregethu am oddeutu ugain mlynedd, sef o tua'r flwyddyn 1809 hyd tua'r flwyddyn 1829, a bu farw Hydref 17eg, 1845, yn 70 oed, a chladdwyd ef yn Llanbeblig. Gan nad ydym yn deall i ddim gael ei argraffu am y gwr hwn o'r blaen, yr ydym yn cymeryd y cyfleusdra i roddi hyn o hanes am dano, gan ystyried ei fod yn haeddu hyn o goffhad. Mae Mr. John Humphreys, Bangor, gohebydd medrus a galluog yn perthyn i'r Liverpool Daily Post, yn wyr i John Humphreys, a chanddo ef y derbyniasom y manylion am farwolaeth yr hen bregethwr.