ond am Owen ni ddalith o byth, mae o mor anwadal," meddai y gau-brophwydi. Ond dal a wnaeth Owen am yn agos i driugain mlynedd; ond ni ddaeth Roger at grefydd am lawer o flynyddoedd, sef yn amser y diwygiad a elwir yn ddiwygiad Brynengan, ac yn y flwyddyn 1832. Daeth brawd arall iddo i'r seiat y pryd hwn (1818), sef Evan, yr hwn oedd yn byw yn Tirdewin. Yr oedd efe yn nodedig am ei wresowgrwydd gyda chrefydd, a gorfoleddodd lawer yr adeg yma. Mae hen rigwm yn aros yn yr ardal sydd yn dangos hyny:—
"Wrth yfed gwaddod yn nhy gweddi,
Troes y bobol yn fwy rhigil,
I dyngu ac i regi.
Cynygiwyd cefndras hegar
Gan Evan Owen Roger;
Nid aeth y gwr erioed mor ffol,
A'i rhoddi'n ol i'w gymar."
Gwaith cablwyr yn gwneyd gwawd o grefydd, ac o'r gorfoledd gyda chrefydd, fel y gwelir, ydyw yr hen rigwm. mor ddidalent ag ydyw o gableddus. A phrin y mae yn werth sylw, ond fel y mae yn dangos fod Evan Owen yn un gwresog gyda chrefydd, ac yn arfer molianu a gorfoleddu yn amser y diwygiad. Wrth 'gefndras hegar' y meddylir, mae yn debyg, iddo ddigwydd taro ryw un, wrth godi ei ddwylaw, ar ol myned i hwyl gorfoledd. Ond nid oedd Owen Owens mor danbaid a'i frawd, nac mor ddilywodraeth arno ei hun a llawer eraill, er ei fod yn wresog iawn. Adwaenem hen frawd hynod o Leyn oedd yn yr ardal y pryd hwn, yr hwn oedd o'r un dosbarth ag Evan Owen, sef Harri Thomas, Talceneiddew, Brynmawr. Yr oedd ei gartref ef ar y pryd yn Mynachdy-gwyn, yn ardal Brynengan. Yr oedd yr hen frawd hwn yn llawn tân a gwres i'w ddiwedd, ymhen dros driugain mlynedd ar ol hyn. "'Doedd o ddim yn perthyn i'n plaid ni," meddai, "fyddai yn bloeddio haleliwia a gogoniant; yr oedd o yn o gumedrol a distaw, ac yn medru meddianu ei hun yn well." Pan nad oedd Harri Thomas ond bachgen bychan o ddeg i ddeuddeg oed, gwaeddodd allan dros y lle un tro yn Mrynengan, pan yr oedd John Elias yn pregethu. Sylwai ar y gair hwnw yn ei ddull difrifol ac arswydawn ei hun,—"A'r rhai hyn a änt i gosbedigaeth dragwyddol." Ail-adroddai a phwysai ar y gair—'a änt i gosbedigaeth dragywyddol." Yna gofynai pwy a änt yno?
"Y rhai hyn," meddai. "Pwy ydyw y rhai hyn?" meddai