Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

drachefn. "Meddwon, godinebwyr, torwyr Sabboth, tyngwyr." Ar hyny gwaeddodd y bachgen dros y lle, gan ei fod, mae lle i ofni, yn arfer tyngu a rhegi, a thori y. Sabboth, fel y cyfeiriwyd. Dywedai Harri Thomas fod Cyfarfod Misol yn Mrynengan yn y gwanwyn ar ol iddo ef ddyfod i'r Seiat, a bod John Jones, Edeyrn, yn pregethu ynddo ar y gair hwnw yn Zechariah viii 5—"A heolydd y ddinas a lenwir o fechgyn a genethod yn chwareu yn ei heolydd hi." Aethant i orfoleddu drwy y capel ar ganol y bregeth. Yr oedd John Jones yn rhoddi ei bwysau ar ochr y pulpud, ac yn edrych arnynt. Ac aeth rhyw rai i geisio eu hatal i orfoleddu. Ond meddai John Jones,—" Gadewch iddynt,

'Fe chwery bol a bwyd;
Ni chwery siaced lwyd, "


Gan awgrymu mai yr achos eu bod yn gorfoleddu oedd eu bod yn nghanol lawnder, a digon o ymborth, ac nad oedd yn dlawd arnynt.

Bu Owen Owens yn myned i eglwys Brynengan am tua blwyddyn; ond byddai Seiat yn cael ei chynal yn fynych y pryd hwn mewn ty yn ardal Bwlchderwin o'r enw Braich-y-Foel, sef cartref hen flaenor rhagorol o'r enw Rhisiart Humphrey. Diau fod Owen Owens wedi bod yn y Seiat yn y ty hwnw rai gweithiau. Ond yn yr adeg yma yr oedd capel cyntaf Bwlchderwin yn cael ei adeiladu, ac agorwyd ef ymhen tua blwyddyn ar ol iddo ef ddyfod at grefydd. Wedi hyny ymunodd a'r eglwys fechan a thlawd oedd yn y lle. Yr oedd yn colli llawer o freintiau wrth ymuno a'r eglwys fechan hon, ac ymadael âg eglwys liosog a llewyrchus Brynengan. Ond yr oedd yn perthyn i Fwlchderwin rai duwiolion nodedig iawn, yn enwedig yr hen flaenor, Rhisiart Humphrey, yr hwn oedd wr nodedig mewn sancteiddrwydd. Ymwasgodd yntau atynt, a diau i'r awyrgylch grefyddol hon adael ei hol arno tra y bu byw. Cafodd hefyd gyfleusdra i arfer mwy ar ei ddoniau yma nag a gawsai yn Mrynengan. Mynych y clywsom ef yn son am yr hen dduwiolion hyn, yn enwedig Rhisiart Humphrey, a hyny gyda'r sobrwydd a'r parch dyfnaf. Yr oedd yr hen flaenor yn un pur lym, a manwl iawn, gyda'r ddisgyblaeth eglwysig. Byddai yn llym iawn yn erbyn balchder yn enwedig. Nid arbedai neb, ac felly nid arbedai Owen Owens, er ei fod yn uchel iawn yn ei olwg. Yr oedd y diweddaf yn gwisgo ruban ar ei het, yr hyn oedd