Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn waharddedig iawn yn ei olwg ef. Dywedai wrtho yn bur llym,—" Mae yn rhaid i ti beidio gwisgo y ruban yna ar dy het, Owen, os wyt ti am fod yma gyda ni." "Mi beidia i a'i wisgo fo pan beidiwch ch'itha a gwisgo y bwcwl yna ar eich esgid," meddai Owen ar unwaith. Byclau a wisgid y pryd hwnw ar esgidiau yn lle careiau fel yn ein dyddiau ni. Ac yr oedd yn gryn addurn ar yr esgid, yn ddisglaer a gloyw bob amser, ac felly fe dynwyd y min oddiar gerydd yr hen frawd ar unwaith. Wrth ddisgyblu byddai yn arferiad y pryd hwnw i yru yr hwn a fyddai o dan ddisgyblaeth allan drwy y drws. Yr oedd yno un hen chwaer yn aelod yn Mwlchderwin, yr hon a fyddai yn fynych o dan ddisgyblaeth. Nid oes ond rhyw ugain mlynedd er pan fu farw, wedi cyraedd ei chan' mlwydd oed. Catrin Rolant oedd ei henw, ac yr oedd yn byw mewn ty o'r enw Tynycoed. Wedi i'r hen flaenor ei gyru allan drwy un drws, byddai hi yn ol yn y capel drwy y drws arall, gyda'r cyflymdra mwyaf. Yr oedd efe dipyn yn arafaidd yn ei ffordd, a hithau yn gyflym fel wiwer.

Mae hanesyn ar gael sydd yn dangos fod Rhisiart Humphrey yn un o deimlad gwresog, ac o ffydd gref. Yr oedd yn dyfod adref o'r capel un nos Sabboth gyda hen Gristion nodedig arall, yr hwn a elwid Thomas y Teiliwr. Byddai llawer o gyfeiriadau yn y weinidogaeth yn y blynyddoedd hyny at y mil-blynyddoedd ac ail-ddyfodiad Crist. Trodd yr ymddiddan rhyngddynt at ail-ddyfodiad Crist, oddiwrth rywbeth a ddywedasai y pregethwr, mae yn ddiau. A gofynodd Rhisiart Humphrey i Thomas Robert,—"Beth a wnaet ti, Tomos, pe b'ai Crist yn dyfod ar y cymylau, rhyng'o ni a'r Graig-goch" (mynydd uchel yn yr ardal y cyfeiriwyd ato o'r blaen yn y llyfr hwn)? "Fe äi fy nglinia'i i grynu yn y fan," meddai Thomas. A dywedir y cynhyrfai Thomas yn y fan gyda phethau llawer llai na hyny. "Beth a wnaet ti, Rhisiart?" meddai Thomas. "Mi neidwn nes y byddai yr hen glocsia' yma yn ddarnau o 'nghwmpas i," meddai Rhisiart Humphrey. Llawer gwaith y dywedodd yr hen dad, y diweddar Barch. Robert Hughes, Uwchlaw'r-ffynon, yr ystori hon gydag arddeliad, ac yn ei ffordd wreiddiol ei hun. Yr oedd y dyn allasai ddweyd fel hyn yn un o ysbryd gwresog iawn. Diau fod hyn wedi digwydd hefyd mewn adeg wresog iawn ar grefydd, mewn adeg o ddiwygiad mawr, megis amser diwygiad Beddgelert.

Ni bu Rhisiart Humphrey byw yn hir ar ol adeiladu capel