Bwlchderwin, dim ond oddeutu saith mlynedd, oblegid bu farw yn mis Mehefin, 1826. Ceir hanes ei farwolaeth mewn cyhoeddiad misol bychan a gyhoeddid yn Nghaernarfon y pryd hwnw, o'r enw "Trysor i'r Ieuanc." Ei olygydd, meddir, oedd John Wynne, a'i argraffydd oedd Peter Evans, o'r dref hono. Rhoddid yr hanes gan y pregethwr ieuanc gobeithiol hwnw, Robert Williams, Brynengan, mab yr hen bregethwr, Rhisiart William. Nid annyddorol, feallai, gan y darllenydd fydd cael yr hanes fel y rhoddir ef yno. Fel hyn y mae:—"Efe oedd hynafgwr parchus a duwiol. Ei fuchedd oedd sobr a hardd. Pan yr oedd yn hynod o wael ac yn agos i angau, aethum i ymweled ag ef; ac yr oedd ei holl blant yno y pryd hyny, gwedi anfon am danynt. Yr oedd y cyfeillion crefyddol hefyd yno; a'r pryd hwnw cafodd ychydig seibiant, ac yn y seibiant hwnw ysgydwodd law â ni; a'r plant yn nesau at erchwyn y gwely i gael golwg ar eu hanwyl dad yn nyfnder yr hen Iorddonen. Yr oedd hon yn olygfa effeithiol, sef pan oedd yn ysgwyd llaw â ni. Yr oedd ein teimladau yn ddrylliog wrth weled ein hen dad duwiol ar fin ein gadael am byth. Y pryd hwnw galwodd ar ei blant, gan ddechreu gyda'r hynaf, a dywedodd wrthynt,—'Ffarwel, fy mhlant anwyl i, yr wyf yn myned i ffordd yr holl ddaear. Gwnewch y goreu o'ch amser. Ymdrechais gymaint ag a allaswn i'ch cadw. Gofalwch am eich mam.' Mae yn anmhosibl darlunio yr agwedd oedd ar y plant, a'r wylo oedd yn yr ystafell. Yn ei glefyd diweddaf yr oedd yn hynod o dawel, ac yn hollol foddlon i drefn Duw. Dywedai hefyd ei fod yn gweled ei grefydd yn troi yn dda, a'i fod yn gweled gwaed Crist yn ddigon i bwyso arno, a'i fod yn ddigon i'w lanhau." Yn ei waeledd diweddaf dywedai wrth rai o'r frawdoliaeth yn y lle nad oedd dim gwella iddo ef, ac у byddai raid iddynt ddewis blaenor yn ei le ef. "Ac yr ydw' i yn credu," meddai, "y gwnaiff Owen, Pantglas-ucha', flaenor." Ac y mae y farn hon yn brawf fod Rhisiart Humphrey yn sylwedydd craff; oblegid bu Owen Owens yn flaenor defnyddiol am tua haner can' mlynedd yn Mwlchderwin ar ol hyn. Ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth aeth Martha, hen wraig Nantcall-ucha', mam y diweddar Owen Humphreys, y Gesail, i edrych am dano, a gwelai arwyddion tlodi yn y tŷ. Gwelai nad oedd y gynfas oedd ar ei wely yn deilwng i fod ar wely hen flaenor mor ragorol, ac anfonodd un newydd a glan yno mor fuan ag y gallai. Mewn ffyrdd
Tudalen:Cofiant Owen Owens, Cors y Wlad.djvu/53
Gwedd