fel hyn y byddai haelioni hen grefyddwyr y dyddiau gynt yn dyfod i'r golwg yn fynych. Ac onid yw gweithred fel hyn yn werth i'w chadw mewn coffadwriaeth?
Mae cyfeiriad wedi ei wneyd eisoes at un arall pur hynod oedd yn perthyn i eglwys Bwlchderwin y pryd hwn, sef Thomas Robert, y Teiliwr. Mae yn amlwg ei fod yn Gristion didwyll, ond yr oedd rhyw bethan hynod yn perthyn iddo. Yr oedd o duedd naturiol tra chynhyrfus a dychrynedig, neu ar lafar gwlad yn yr ardaloedd hyn, yr oedd yn un "rhislyd" iawn. Dim ond iddo weled neu glywed rhywbeth ychydig allan o'r ffordd gyffredin, fe gynhyrfai drwyddo, ac fe redai ymaith fel ewig. Ar un gauaf caled, pan oedd eira trwchus ar y ddaear, yr hyn a ddigwyddai yn fynych yn amser ein tadau, yr oedd carw wedi dianc o un o barciau gwyr mawr Mon, yr hwn oedd wedi dyfod drosodd i Sir Gaernarfon, ac wedi cyraedd hyd i ardal Bwlchderwin. Wrth fyned at ei waith un boreu i un o ffermdai y gymydogaeth, gwelai Thomas ol traed rhyw greadur rhyfedd iawn yn yr eira. Tarawyd ef a dychryn ar unwaith. Meddyliodd ynddo ei hun, tybed ai llew ydoedd. Diau i'r ymadrodd hwnw ddyfod i'w feddwl, yr hwn a ddywedir am Benaiah, mab Jehoiada,—"Ac efe a aeth i waered, ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira," er nad oedd dim tebyg y gallasai efe byth wneyd hyny. Tra yr oedd y myfyrdodau arswydlawn hyn yn llenwi ei feddwl. dyma y creadur yn ei gyfarfod ar y ffordd: ac nid oedd wedi gweled creadur tebyg iddo yn ei oes. Cynhyrfodd gymaint fel y dechreuodd redeg a'i holl egni ar unwaith, ac ni safodd nes cael ei hunan yn grogedig wrth gwpl ryw feudy yn y gymydogaeth. dywedir iddo fod yn llechu yn ei ymguddfa am oriau lawer. Er yr hynodrwydd hwn oedd ynddo, credwn iddo fod yn ddefnyddiol iawn gyda chrefydd yn ardal Bwlchderwin am lawer o flynyddoedd. Efe, os ydym yn cofio yn iawn, a fyddai yn dechreu y canu am amser maith. Bu hefyd o gymorth mawr i ddechreu a dwyn ymlaen Ysgol Sabbothol yn ardal Taiduon. Treuliodd ei flynyddau olaf yn ardal Llanaelhaiarn, mewn lle o'r enw Llwyd-y-pric (Llwyn-y-brig, efallai).
Yr oedd yn perthyn i Fwlchderwin hefyd y pryd hwn rai gwragedd hynod iawn mewn duwioldeb, rhai y gellir cyfeirio atynt yn debyg i fel y mae Petr yn cyfeirio at rai felly yn ei amser ef,—"Canys felly gynt yr oedd y gwragedd sanctaidd hefyd, y rhai oedd yn gobeithio yn Nuw." Efallai mai yr