y pregethwr ieuanc duwiol hwnw, Mr. Robert Williams, Tan-y-chwarel, yr hwn a fu farw yn mlodeu ei ddyddiau, am yr hwn y cawn sylwi ymhellach ymlaen; a Mr. Richard Williams, yr hwn oedd yn flaenor yn Rock Ferry, ac a fu farw yn ddiweddar. Yr oedd Mari Robert yn disgyn o deulu hynod grefyddol a Methodistaidd. Yr oedd yn wyres i'r hen santes hono a elwir ar lafar gwlad, 'Sudi Brynbrych.' Mynych y bu yr hen wraig hono yn myned o Frynbrych, yn ardal Brynengan, i gapel Tymawr, yn Lleyn, ar foreu Sabboth i wrando pregeth, pellder o tua deunaw milldir, gan adael tri neu bedwar o'i phlant o dan ofal perthynasau iddi oedd yn byw mewn ffarm arall gerllaw o'r enw Brychyni. Ac yr oedd Mari Robert, neu yn ol enw ei phriod, Mari William, wedi etifeddu llawer o'i hysbryd.
PENOD VII.
ARDAL BWLCHDERWIN.
Ystyr y gair.—Darddiad boreuol.—Eglwys yn y lle yn foreuol iawn—William Richard Llwyd yn pregethu yma.—Marwnad Williams Pantycelyn iddo.—Ffrwythau y pregethau.—(1). Ysbryd cenhadol—Catrin ach Rhisiart yn rhybuddio John Morris.—Lowri Williams a Jane Griffith.—(2). Awydd am addysg.—Ysgolion Griffith Jones, Llanddowror.—Yn fendithiol i'r teuluoedd lle y cynhelid hwy—Humphrey Parry.Yn dadleu o blaid awdl Dewi Wyn.—Rhisiart William, Brynengan—Yr athraw, Thomas Gough.—Y Parch. Richard Nanney.—Y Parch. Richard Tibbot—Merch ieuanc yn ymuno â theulu Trefecca.—Yn berthynas i Sion Wyn o Eifion.—Hynodrwydd Robert Sion Dafydd.
MAE ffurf y gair, Bwlchderwin, yn wahanol ar lafar gwlad i'r hyn ydyw mewn argraph yn gyffredin. Y ffurf ar lafar gwlad yn ddieithriad ydyw Bwlchderwin, neu Bwlchderwyn; ond mewn argraff ceir Bwlchderwydd yn fwy mynych o lawer. Mae y ffurf ddiweddaf yn awgrymu fod cysylltiad wedi bod rhwng y lle ar ryw adeg â'r Derwyddon. Ond yr hyn sydd yn myned yn erbyn hyn ydyw nad oes yn yr ardal unrhyw olion derwyddol o gwbl. Barna eraill fod y